Exodus 7:1-6
Exodus 7:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Bydda i’n dy wneud di fel ‘duw’ i’r Pharo, a dy frawd Aaron fel dy broffwyd. Rwyt i ddweud popeth dw i’n ei orchymyn i ti, ac mae dy frawd Aaron i ddweud wrth y Pharo fod rhaid iddo ryddhau pobl Israel o’i wlad. Ond bydda i’n gwneud y Pharo’n ystyfnig. Bydda i’n gwneud lot fawr o arwyddion a gwyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft, ond fydd y Pharo ddim yn gwrando. Felly bydda i’n taro’r Aifft, yn eu cosbi nhw’n llym, ac yn arwain fy mhobl Israel allan o’r wlad mewn rhengoedd trefnus. Wedyn bydd pobl yr Aifft yn deall mai fi ydy’r ARGLWYDD pan fydda i’n taro’r Aifft ac yn arwain pobl Israel allan o’u gwlad nhw.” Dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw.
Exodus 7:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Edrych, yr wyf yn dy wneud fel Duw i Pharo, a bydd Aaron dy frawd yn broffwyd iti. Yr wyt i fynegi'r cyfan yr wyf yn ei orchymyn i ti, a bydd Aaron dy frawd yn dweud wrth Pharo am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad. Byddaf finnau'n caledu calon Pharo; ac er imi amlhau fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft, ni fydd ef yn gwrando arnoch. Yna byddaf yn gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn rhyddhau fy mhobl Israel yn lluoedd o wlad yr Aifft, trwy weithredoedd nerthol o farn. Bydd yr Eifftiaid yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan estynnaf fy llaw yn erbyn yr Aifft a rhyddhau'r Israeliaid o'u plith.” Gwnaeth Moses ac Aaron yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.
Exodus 7:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Gwêl, mi a’th wneuthum yn dduw i Pharo: ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau. Ti a leferi yr hyn oll a orchmynnwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad. A minnau a galedaf galon Pharo, ac a amlhaf fy arwyddion a’m rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft. Ond ni wrendy Pharo arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aifft, trwy farnedigaethau mawrion. A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft, a dwyn meibion Israel allan o’u mysg hwynt. A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; ie, felly y gwnaethant.