Exodus 4:1-31
Exodus 4:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma Moses yn ateb, “Beth os wnân nhw ddim fy nghredu i? Beth os ddwedan nhw, ‘Wnaeth yr ARGLWYDD ddim dangos ei hun i ti.’?” Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Beth ydy honna yn dy law di?” A dyma fe’n ateb, “Ffon.” “Tafla hi ar lawr,” meddai’r ARGLWYDD. Dyma fe’n taflu’r ffon ar lawr, a dyma hi’n troi’n neidr. A dyma Moses yn cilio’n ôl yn reit sydyn. Ond yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael ynddi wrth ei chynffon.” Pan wnaeth Moses hynny dyma hi’n troi yn ôl yn ffon yn ei law. “Gwna di hyn, a byddan nhw’n credu wedyn fod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid wedi ymddangos i ti – Duw Abraham, Isaac a Jacob.” Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Rho dy law dan dy glogyn.” Felly dyma fe’n rhoi ei law dan ei glogyn, ond pan dynnodd hi allan roedd brech fel gwahanglwyf drosti – roedd yn wyn fel yr eira! Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud eto, “Rho dy law yn ôl dan dy glogyn.” Felly dyma Moses yn rhoi ei law yn ôl dan ei glogyn, a phan dynnodd hi allan y tro yma, roedd hi’n iach eto fel gweddill ei groen! “Os byddan nhw’n gwrthod dy gredu di pan welan nhw’r arwydd cyntaf, falle y gwnân nhw gredu’r ail arwydd,” meddai’r ARGLWYDD. “Os byddan nhw’n dal i wrthod credu, yna cymer ddŵr o afon Nîl a’i dywallt ar y tir sych. Bydd y dŵr yn troi’n waed ar y tir sych.” Ond wedyn dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Plîs, Meistr, dw i ddim yn siaradwr da iawn – dw i erioed wedi bod, a fydda i byth chwaith. Mae gen i atal dweud, a dw i’n ei chael hi’n anodd i siarad.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy’n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD? Felly dos; bydda i’n dy helpu di i siarad, ac yn dy ddysgu di beth i’w ddweud.” Ond meddai Moses, “O, plîs, Meistr, anfon rhywun arall!” Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i’n gwybod ei fod e’n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e’n dy weld di! Byddi di’n dweud wrtho beth i’w ddweud. Bydda i’n dy helpu di a’i helpu fe i siarad, ac yn dangos i chi beth i’w wneud. Bydd e’n siarad ar dy ran di gyda’r bobl. Bydd e’n siarad ar dy ran di, a byddi di fel ‘duw’ yn dweud wrtho beth i’w ddweud. A dos â dy ffon gyda ti – byddi’n gwneud arwyddion gwyrthiol gyda hi.” Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld a ydyn nhw’n dal yn fyw.” A dyma Jethro’n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!” (Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i’r Aifft. Mae’r dynion oedd am dy ladd di wedi marw.”) Felly dyma Moses yn mynd gyda’i wraig a’i feibion – eu rhoi nhw ar gefn mul, a dechrau yn ôl am yr Aifft. Ac aeth â ffon Duw gydag e yn ei law. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pan ei di yn ôl i’r Aifft, gwna’n siŵr dy fod yn gwneud yr holl wyrthiau rhyfeddol dw i wedi rhoi’r gallu i ti eu gwneud o flaen y Pharo. Ond bydda i’n ei wneud e’n ystyfnig, a bydd e’n gwrthod gadael i’r bobl fynd. Felly dywed di wrth y Pharo, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fy mab i ydy Israel, fy mab hynaf i, a dw i wedi dweud wrthot ti am adael iddo fynd, iddo gael fy addoli i. Gwylia dy hun os byddi di’n gwrthod! Bydda i’n lladd dy fab hynaf di!”’” Ar y ffordd, roedd Moses a’i deulu wedi aros i letya dros nos. A dyma’r ARGLWYDD yn dod ato, ac roedd yn mynd i’w ladd. Ond dyma Seffora yn cymryd cyllell finiog a torri’r blaengroen oddi ar bidyn ei mab. Yna dyma hi’n cyffwrdd man preifat Moses gydag e, a dweud, “Rwyt ti wir yn briodfab i mi drwy waed.” A dyma’r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo. (Wrth ddweud “priodfab drwy waed” roedd Seffora’n cyfeirio at ddefod enwaediad.) Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Dos i’r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly dyma fe’n mynd ac yn cyfarfod Moses wrth fynydd Duw, a’i gyfarch gyda chusan. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i anfon i’w ddweud, ac am yr arwyddion gwyrthiol roedd i’w gwneud. Galwodd Moses ac Aaron arweinwyr Israel at ei gilydd. A dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. Yna dyma’r bobl yn gweld yr arwyddion gwyrthiol ac yn ei gredu. Pan glywon nhw fod yr ARGLWYDD wedi bod yn cadw golwg ar bobl Israel ac wedi gweld sut roedden nhw’n cael eu cam-drin, dyma nhw’n plygu i lawr yn isel i’w addoli.
Exodus 4:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi. Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law. “Gwna hyn,” meddai, “er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Rho dy law yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira. Yna dywedodd Duw, “Rho hi'n ôl yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff. “Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf,” meddai'r ARGLWYDD, “hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd. Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych.” Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD? Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.” Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.” Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld. Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud. Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau. Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.” Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, “Gad imi fynd yn ôl at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrtho, “Rhwydd hynt iti.” Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft, oherwydd y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd bellach wedi marw.” Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn ôl i wlad yr Aifft, â gwialen Duw yn ei law. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd. Llefara wrth Pharo, ‘Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: Israel yw fy mab cyntafanedig, ac yr wyf yn dweud wrthyt am ollwng fy mab yn rhydd er mwyn iddo f'addoli, ond gwrthodaist ei ollwng yn rhydd, felly fe laddaf dy fab cyntafanedig di.’ ” Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD â Moses a cheisio'i ladd. Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, “Yr wyt yn briod imi trwy waed.” Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, “Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod â Moses.” Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu. Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud. Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel, a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngŵydd y bobl. Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld â phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.
Exodus 4:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr ARGLWYDD i ti. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen. Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi. Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:) Fel y credant ymddangos i ti o ARGLWYDD DDUW eu tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira. Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef. A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd. A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych. A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD? Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych. Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda’r hwn a ddanfonych. Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon. Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda’th enau di, a chyda’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch. A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle DUW iddo yntau. Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi. A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes. A Moses a gymerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen DUW yn ei law. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl. A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel. A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig. A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o’r ARGLWYDD ag ef, a cheisio ei ladd ef. Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi. A’r ARGLWYDD a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd DUW, ac a’i cusanodd ef. A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr ARGLWYDD, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo. A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel. Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl. A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r ARGLWYDD â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.