Exodus 32:1-4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Exodus 32:1-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y bobl fod Moses yn hir iawn yn dod i lawr o’r mynydd, dyma nhw’n casglu o gwmpas Aaron a dweud wrtho, “Tyrd, gwna rywbeth. Gwna dduwiau i ni i’n harwain. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i’r Moses yna wnaeth ein harwain ni allan o’r Aifft!” Felly dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch y modrwyau aur sydd yng nghlustiau eich gwragedd a’ch meibion a’ch merched, a dewch â nhw i mi.” Felly dyma’r bobl i gyd yn tynnu eu clustdlysau, a dod â nhw i Aaron. Cymerodd yr aur ganddyn nhw, a defnyddio offer gwaith metel i wneud eilun ar siâp tarw ifanc allan ohono. A dyma’r bobl yn dweud, “O Israel! Dyma’r duwiau ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft!”
Exodus 32:1-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, “Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft.” Dywedodd Aaron wrthynt, “Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â hwy ataf fi.” Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant â hwy at Aaron. Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin â chŷn, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, “Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.”
Exodus 32:1-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch ataf fi. A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron. Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.