Exodus 31:12-17
Exodus 31:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o’r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy’r ARGLWYDD sydd wedi’ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun. Felly rhaid i chi gadw’r Saboth, a’i ystyried yn sanctaidd. Os ydy rhywun yn ei halogi, y gosb ydy marwolaeth. Yn wir, os ydy rhywun yn gwneud unrhyw waith ar y Saboth, bydd y person hwnnw’n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae’r seithfed diwrnod yn Saboth – diwrnod i chi orffwys. Mae’r ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, ac os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. Mae pobl Israel i gadw’r Saboth bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad mae’n rhaid ei gadw am byth. Mae’n arwydd o’r berthynas sydd gen i gyda phobl Israel. Roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd a’r ddaear mewn chwe diwrnod. Wedyn dyma fe’n gorffwys ac ymlacio.’”
Exodus 31:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru. Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth. Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth. Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tragwyddol. Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.’ ”
Exodus 31:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd, Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, sydd yn eich sancteiddio. Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl. Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i’r ARGLWYDD: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth. Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol. Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.