Exodus 3:6-7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Exodus 3:6-7 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe’n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio’i wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw. Yna meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n gweiddi wrth i’w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i’n teimlo drostyn nhw.
Exodus 3:6-7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd hefyd, “Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob.” Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.
Exodus 3:6-7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW dy dad, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edrych ar DDUW. A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.