Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 3:3-4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Exodus 3:3-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy’n digwydd – pam nad ydy’r berth yna wedi llosgi’n ulw.” Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!” “Dyma fi,” meddai Moses.

Exodus 3:3-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Dywedodd Moses, “Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi.” Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, “Moses, Moses.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”

Exodus 3:3-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi. Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod efe yn troi i edrych, DUW a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi.