Exodus 27:1-8
Exodus 27:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae’r allor i gael ei gwneud o goed acasia. Mae hi i fod yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. Mae cyrn i fod ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda’r allor ei hun. Yna rwyt i’w gorchuddio gyda phres. Mae’r offer i gyd i’w gwneud o bres hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a’r padellau tân. Hefyd gratin, sef rhwyll wifrog o bres gyda pedwar cylch pres ar y corneli. Mae i’w gosod o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. Yna gwneud polion i’r allor, allan o goed acasia, a’u gorchuddio nhw gyda pres. Mae’r polion i gael eu gwthio drwy’r cylchoedd fel bod polyn bob ochr i’r allor i’w chario hi. Dylai’r allor gael ei gwneud gyda planciau pren, fel ei bod yn wag y tu mewn. Dylid ei gwneud yn union fel cafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.
Exodus 27:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gwna allor sgwâr o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder. Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti. Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres. Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith. Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor. Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt. Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo. Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.
Exodus 27:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd. A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres. Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres. A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl. A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor. A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres. A dod ei throsolion trwy’r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi. Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.