Exodus 20:4-5
Exodus 20:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid cerfio eilun i’w addoli – dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
Exodus 20:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear; nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu
Exodus 20:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt