Exodus 20:1-7
Exodus 20:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Duw yn dweud fel yma: “Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i’w addoli – dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud. Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
Exodus 20:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud: “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed. “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi. “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear; nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu, ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion. “Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.
Exodus 20:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A DUW a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.