Exodus 13:1-16
Exodus 13:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.” Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae’r diwrnod yma, pan ddaethoch chi allan o’r Aifft, yn ddiwrnod i’w gofio. Roeddech chi’n gaethion yno, a dyma’r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i’ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi’i wneud gyda burum pan fyddwch chi’n dathlu. Dyma’r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i’r wlad wnaeth e addo ei rhoi i’ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i’r ARGLWYDD. Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi’i wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun, i fod yn unman. Yna dych chi i esbonio i’ch plant, ‘Dŷn ni’n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o’r Aifft.’ Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o’r Aifft. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn. “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i’ch hynafiaid chi, rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd biau nhw. Gellir prynu’n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e’n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu’n ôl hefyd. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’, Dych chi i’w hateb, ‘Yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o’r Aifft, lle roedden ni’n gaethion. Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni’n rhydd, felly dyma’r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni’n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i’r ARGLWYDD. Ond dŷn ni’n prynu’n ôl pob mab cyntaf i gael ei eni.’ Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i’ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o’r Aifft.”
Exodus 13:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cysegra i mi bob cyntafanedig; eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth ymysg yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail.” Yna dywedodd Moses wrth y bobl, “Cofiwch y dydd hwn, sef y dydd y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ caethiwed, oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â chwi oddi yno; hefyd, peidiwch â bwyta bara lefeinllyd. Ar y dydd hwn ym mis Abib yr ewch allan. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid a Jebusiaid, sef y wlad yr addawodd i'th hynafiaid y byddai'n ei rhoi i ti, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, yr wyt i gadw'r ddefod hon yn ystod y mis hwn. Am saith diwrnod byddi'n bwyta bara croyw, ac ar y seithfed dydd bydd gŵyl i'r ARGLWYDD. Bara croyw a fwyteir am saith diwrnod, ac ni fydd bara lefeinllyd na surdoes i'w weld yn unman o fewn dy dir. Ar y dydd hwnnw, fe ddywedir wrth dy blentyn, ‘Gwneir hyn oherwydd y peth a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft.’ Bydd hyn i ti yn arwydd ar dy law a rhwng dy lygaid, i'th atgoffa y dylai cyfraith yr ARGLWYDD fod yn dy enau; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â thi allan o'r Aifft. Yr wyt i gadw'r ddeddf hon yn ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn. “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid a'i rhoi iti, fel y tyngodd i ti ac i'th hynafiaid, yr wyt i neilltuo pob cyntafanedig iddo ef; bydd pob gwryw cyntafanedig o blith dy anifeiliaid yn eiddo i'r ARGLWYDD. Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion. Yna pan fydd dy blentyn ymhen amser yn gofyn, ‘Beth yw ystyr hyn?’ dywed wrtho, ‘Â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni o'r Aifft, o dŷ caethiwed; oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.’ Bydd hyn yn arwydd ar dy law ac yn rhactalau rhwng dy lygaid; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft.”
Exodus 13:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Cysegra i mi bob cyntaf-anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw. A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr ARGLWYDD chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd. Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib. A phan ddygo’r ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn. Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i’r ARGLWYDD. Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau. A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o’r Aifft, y gwneir hyn. A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr ARGLWYDD yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD dydi allan o’r Aifft. Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn. A phan ddygo yr ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a’i rhoddi i ti, Yna y neilltui i’r ARGLWYDD bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr ARGLWYDD fyddant. A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf-anedig o’th feibion a bryni di hefyd. A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed. A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r ARGLWYDD bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o’m meibion a brynaf. A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o’r Aifft.