Exodus 12:1-28
Exodus 12:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron yn yr Aifft, “Y mis yma fydd mis cynta’r flwyddyn i chi. Dwedwch wrth bobl Israel: Ar y degfed o’r mis rhaid i bob teulu gymryd oen neu fyn gafr i’w ladd. Os ydy’r teulu’n rhy fach i fwyta’r anifail cyfan, dylen nhw ei rannu gyda’u cymdogion. Mae’n dibynnu faint o bobl sydd yn y teulu, a faint mae pawb yn gallu ei fwyta. Rhaid iddo fod yn anifail gwryw, blwydd oed, heb ddim o’i le arno. Gall fod yn oen neu’n fyn gafr. Rhaid ei gadw ar wahân hyd y pedwerydd ar ddeg o’r mis. Yna, y noson honno, ar ôl i’r haul fachlud, bydd pobl Israel i gyd yn lladd yr oen neu’r myn gafr sydd ganddyn nhw. Wedyn maen nhw i gymryd peth o’r gwaed a’i roi ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws i’r tŷ lle byddan nhw’n ei fwyta. Rhaid iddyn nhw ei rostio y noson honno, a’i fwyta gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. Rhaid rhostio’r anifail cyfan, yn cynnwys ei ben, ei goesau a’i berfeddion. Peidiwch bwyta’r cig os nad ydy e wedi’i goginio’n iawn, neu ddim ond wedi’i ferwi. Does dim ohono i gael ei adael ar ôl tan y bore wedyn. Rhaid i unrhyw sbarion gael eu llosgi. “A dyma sut mae i gael ei fwyta: Rhaid i chi fod wedi gwisgo fel petaech ar fin mynd ar daith, gyda’ch sandalau ar eich traed a’ch ffon gerdded yn eich llaw. Rhaid ei fwyta ar frys. Pasg yr ARGLWYDD ydy e. Dw i’n mynd i fynd drwy wlad yr Aifft y noson honno, a tharo pob mab hynaf, a phob anifail gwryw oedd yn gyntaf i gael ei eni. Dw i’n mynd i farnu ‘duwiau’ yr Aifft i gyd! Fi ydy’r ARGLWYDD. Mae’r gwaed fydd ar ffrâm drysau eich tai chi yn arwydd i chi. Pan fydda i’n gweld y gwaed, bydda i’n pasio heibio i chi. Fydd y pla yma ddim yn eich lladd chi pan fydda i’n taro gwlad yr Aifft. Bydd yn ddiwrnod i’w gofio. Byddwch yn ei ddathlu bob blwyddyn drwy gadw gŵyl i’r ARGLWYDD – dyna fydd y drefn bob amser. “Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. Ar y diwrnod cyntaf, rhaid cael gwared ag unrhyw beth yn y tŷ sydd â burum ynddo. Yn ystod y saith diwrnod yna, bydd unrhyw un sydd yn bwyta bara wedi’i wneud gyda burum yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel. Bydd cyfarfodydd arbennig i addoli yn cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf ac ar y seithfed diwrnod. A does dim gwaith i gael ei wneud ar y dyddiau hynny, ar wahân i baratoi bwyd i bawb. “Dyna sut ydych chi i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Dyma’r diwrnod wnes i eich arwain chi allan o’r Aifft, ac felly bydd yn rhan o’r drefn bob amser eich bod yn dathlu’r digwyddiad yn flynyddol. Dim ond bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta o fachlud haul ar y pedwerydd ar ddeg hyd fachlud haul ar yr unfed ar hugain o’r mis cyntaf. Does dim burum i fod yn eich tai o gwbl am saith diwrnod. Os bydd unrhyw un (un o bobl Israel neu rywun o’r tu allan) yn bwyta rhywbeth wedi’i wneud gyda burum, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Israel. Peidiwch bwyta unrhyw beth wedi’i wneud gyda burum – dim ond bara heb furum ynddo.” Yna, dyma Moses yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, ac yn dweud wrthyn nhw, “Ewch i ddewis oen neu fyn gafr i’ch teulu, i’w ladd fel aberth y Pasg. Rhoi gwaed yr anifail mewn powlen, yna cymryd swp o frigau isop, ei ddipio yn y gwaed a’i frwsio ar dop ac ochrau ffrâm y drws. Yna does neb i fynd allan o’r tŷ tan y bore wedyn. Bydd yr ARGLWYDD yn mynd drwy wlad yr Aifft yn taro’r bobl. Ond pan fydd e’n gweld y gwaed ar ffrâm drws unrhyw dŷ, bydd yn pasio heibio’r tŷ hwnnw. Fydd e ddim yn gadael i’r dinistrydd ddod i mewn a tharo eich teulu chi. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch plant yn gwneud hyn. Dyna fydd y drefn bob amser. Pan fyddwch yn cyrraedd y wlad mae’r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i chi, byddwch yn dal i gadw’r ddefod yma. Pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Pam dych chi’n gwneud hyn?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Aberth y Pasg i’r ARGLWYDD ydy e, i gofio sut wnaeth e basio heibio tai pobl Israel ac achub ein teuluoedd pan wnaeth e daro gwlad yr Aifft.’” A dyma’r bobl oedd yn gwrando ar Moses yn plygu i lawr yn isel i addoli. Wedyn dyma nhw’n mynd i ffwrdd a gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses ac Aaron.
Exodus 12:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron yng ngwlad yr Aifft, “Bydd y mis hwn i chwi yn gyntaf o'r misoedd; hwn fydd y mis cyntaf o'ch blwyddyn. Dywedwch wrth holl gynulleidfa Israel fod pob dyn, ar y degfed dydd o'r mis hwn, i gymryd oen ar gyfer ei deulu, un i bob teulu. Os bydd un oen yn ormod i'r teulu, gallant ei rannu â'r cymdogion agosaf, yn ôl eu nifer, a rhannu cost yr oen yn ôl yr hyn y mae pob un yn ei fwyta. Rhaid i bob oen fod yn wryw blwydd heb nam, wedi ei gymryd o blith y defaid neu o blith y geifr. Yr ydych i'w cadw hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn, ac yna bydd pob aelod o gynulleidfa Israel yn eu lladd fin nos. Yna byddant yn cymryd peth o'r gwaed a'i daenu ar ddau bost a chapan drws y tai lle y bwyteir hwy. Y maent i fwyta'r cig y noson honno wedi ei rostio wrth dân, a'i fwyta gyda bara croyw a llysiau chwerw. Peidiwch â bwyta dim ohono'n amrwd nac wedi ei ferwi mewn dŵr, ond wedi ei rostio wrth dân, yn ben, coesau a pherfedd. Peidiwch â gadael dim ohono ar ôl hyd y bore; os bydd peth ohono ar ôl yn y bore, llosgwch ef yn y tân. “Dyma sut yr ydych i'w fwyta: yr ydych i'w fwyta ar frys â'ch gwisg wedi ei thorchi, eich esgidiau am eich traed, a'ch ffon yn eich llaw. Pasg yr ARGLWYDD ydyw. Y noson honno, byddaf yn tramwyo trwy wlad yr Aifft ac yn lladd pob cyntafanedig sydd ynddi, yn ddyn ac anifail, a byddaf yn dod â barn ar dduwiau'r Aifft; myfi yw'r ARGLWYDD. Bydd y gwaed yn arwydd ar y tai y byddwch chwi ynddynt; pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft. “Bydd y dydd hwn yn ddydd i'w gofio i chwi, ac yr ydych i'w gadw yn ŵyl i'r ARGLWYDD; cadwch yr ŵyl yn ddeddf am byth dros y cenedlaethau. Am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara croyw; ar y dydd cyntaf bwriwch y surdoes allan o'ch tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed yn cael ei ddiarddel o Israel. Ar y dydd cyntaf ac ar y seithfed, bydd cyfarfod cysegredig; ni wneir dim gwaith yn ystod y dyddiau hynny, heblaw paratoi bwyd i bawb i'w fwyta; dyna'r cyfan. Cadwch hefyd ŵyl y Bara Croyw, am mai ar y dydd hwn y deuthum â'ch lluoedd allan o wlad yr Aifft; am hynny y mae'r dydd hwn i'w gadw'n ddeddf am byth dros y cenedlaethau. Yr ydych i fwyta bara croyw o hwyrddydd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf hyd yr hwyr ar yr unfed dydd ar hugain. Am saith diwrnod nid ydych i gadw surdoes yn eich tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd yn cael ei ddiarddel o gynulleidfa Israel, boed yn estron neu'n frodor. Peidiwch â bwyta dim sydd wedi ei lefeinio, ond ym mha le bynnag yr ydych yn byw, bwytewch fara croyw.” Yna galwodd Moses ynghyd holl henuriaid Israel, a dweud wrthynt, “Dewiswch yr ŵyn ar gyfer eich teuluoedd, a lladdwch oen y Pasg. Yna cymerwch dusw o isop a'i drochi yn y gwaed fydd yn y cawg, a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws; nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore. Bydd yr ARGLWYDD yn tramwyo drwy'r Aifft ac yn taro'r wlad, ond pan wêl y gwaed ar gapan a dau bost y drws, bydd yn mynd heibio iddo, ac ni fydd yn gadael i'r Dinistrydd ddod i mewn i'ch tai i'ch difa. Cadwch y ddefod hon yn ddeddf i chwi a'ch plant am byth. Yr ydych i gadw'r ddefod hon pan ddewch i'r wlad y bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi yn ôl ei addewid. Pan fydd eich plant yn gofyn i chwi, ‘Beth yw'r ddefod hon sydd gennych?’ yr ydych i ateb, ‘Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, oherwydd pan drawodd ef yr Eifftiaid, aeth heibio i dai'r Israeliaid oedd yn yr Aifft a'u harbed.’ ” Ymgrymodd y bobl mewn addoliad. Aeth yr Israeliaid ymaith a gwneud yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses ac Aaron.
Exodus 12:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd, Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn. Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu. Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen. Bydded yr oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymerwch ef. A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos. A chymerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt. A’r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef. Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd. Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân. Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr ARGLWYDD ydyw efe. Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr ARGLWYDD. A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft. A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r ARGLWYDD trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol. Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel. Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur. Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol. Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr. Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor. Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau. A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg. A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore. Oherwydd yr ARGLWYDD a dramwya i daro’r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr ARGLWYDD a â heibio i’r drws, ac ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio. A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd. A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr ARGLWYDD i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn. A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych? Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant. A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.