Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 10:1-29

Exodus 10:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo. Dw i wedi’i wneud e a’i swyddogion yn ystyfnig, er mwyn iddyn nhw weld yr arwyddion gwyrthiol dw i’n eu gwneud. Hefyd er mwyn i ti allu dweud am beth ddigwyddodd wrth dy blant a’u plant hwythau, sut roeddwn i wedi gwneud ffyliaid o’r Eifftiaid. Byddwch chi’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.” Felly dyma Moses ac Aaron yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, yn ei ddweud: ‘Am faint wyt ti’n mynd i wrthod plygu i mi? Gad i’m pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i! Os fyddi di’n gwrthod, gwylia dy hun! Bydda i’n anfon locustiaid drwy dy wlad di yfory. Byddan nhw dros bobman! Fyddi di ddim yn gallu gweld y llawr! Byddan nhw’n dinistrio popeth wnaeth ddim cael ei ddifetha gan y cenllysg. Fydd yna ddim byd gwyrdd ar ôl, a dim blagur ar y coed. Byddan nhw drwy dy balas di, tai dy swyddogion a thai pawb arall yn yr Aifft. Fydd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn holl hanes gwlad yr Aifft!’” Yna dyma Moses yn troi ac yn gadael y Pharo. A dyma swyddogion y Pharo yn dweud wrtho, “Am faint mae hyn i fynd ymlaen? Gad iddyn nhw fynd i addoli’r ARGLWYDD eu Duw. Wyt ti ddim yn gweld y bydd hi ar ben ar y wlad yma?” Dyma nhw’n dod â Moses ac Aaron yn ôl at y Pharo. A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Ewch i addoli’r ARGLWYDD eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?” “Bydd pawb yn mynd,” meddai Moses, “hen ac ifanc, ein plant a’n hanifeiliaid. Dŷn ni’n mynd i gynnal gŵyl i’r ARGLWYDD.” “Duw a’ch helpo os ydych chi’n meddwl y gwna i adael i’ch plant fynd gyda chi! Gwyliwch chi! Byddwch chi mewn trwbwl wedyn! Na! Dim ond y dynion sydd i gael mynd i addoli’r ARGLWYDD. Dyna dych chi eisiau ynte?” A dyma fe’n gyrru’r ddau allan o’i olwg. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law dros wlad yr Aifft i wneud i’r locustiaid ddod. Byddan nhw dros bobman, ac yn difetha popeth sy’n dal i dyfu ar ôl y cenllysg.” Felly dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i wynt o’r dwyrain chwythu drwy’r dydd a’r nos. Erbyn iddi wawrio y bore wedyn roedd y gwynt wedi dod â’r locustiaid i’r wlad. Dyma nhw’n mynd drwy’r wlad i gyd, o un pen i’r llall. Fuodd yna erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd yna ddim un tebyg byth eto. Roedden nhw dros bobman! Roedd y ddaear yn ddu gan locustiaid, a dyma nhw’n difetha pob planhigyn a phob ffrwyth ar bob coeden oedd yn dal yna wedi’r cenllysg. Doedd yna ddim planhigyn na deilen werdd ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd! Dyma’r Pharo yn galw am Moses ac Aaron ar frys. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a chithau. Plîs maddeuwch i mi yr un tro yma, a gweddïo y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cymryd y pla marwol yma i ffwrdd.” Felly dyma Moses yn gadael y Pharo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i’r gwynt droi, a chwythu’n gryf o gyfeiriad y gorllewin. Dyma’r gwynt yn codi’r locustiaid a’u chwythu nhw i gyd i’r Môr Coch. Doedd yna ddim un locust ar ôl drwy wlad yr Aifft i gyd! Ond dyma’r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law i fyny i’r awyr, er mwyn i dywyllwch ddod dros wlad yr Aifft – tywyllwch dychrynllyd!” Felly dyma Moses yn estyn ei law i fyny i’r awyr, ac roedd hi’n dywyll fel y fagddu drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod. Doedd pobl ddim yn gallu gweld ei gilydd, a doedd neb yn gallu mynd allan am dri diwrnod! Ond roedd hi’n olau lle roedd pobl Israel yn byw. Dyma’r Pharo yn galw am Moses, a dweud, “Ewch i addoli’r ARGLWYDD. Cewch fynd â’ch plant gyda chi, ond dw i am gadw’r anifeiliaid yma.” Atebodd Moses, “Wyt ti ddim am roi anifeiliaid i ni i’w haberthu a’u cyflwyno’n offrymau i’w llosgi i’r ARGLWYDD ein Duw? Rhaid i’r anifeiliaid fynd gyda ni. Does dim un i gael ei adael ar ôl. Rhaid i ni ddewis rhai ohonyn nhw i’w haberthu i’r ARGLWYDD, a dŷn ni ddim yn gwybod pa rai nes byddwn ni wedi cyrraedd yno.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn gwneud y Pharo yn ystyfnig eto. Doedd e ddim am adael iddyn nhw fynd. Meddai’r Pharo, “Dos o ngolwg i! Dw i byth eisiau dy weld di yma eto! Os gwela i di eto, bydda i’n dy ladd di!” “Iawn,” meddai Moses, “fyddi di byth yn fy ngweld i eto.”

Exodus 10:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos at Pharo, oherwydd yr wyf wedi caledu ei galon a chalon ei weision, er mwyn i mi ddangos yr arwyddion hyn o'm heiddo yn eu plith, ac er mwyn i tithau ddweud wrth dy blant a phlant dy blant, fel y bûm yn trin yr Eifftiaid a gwneud arwyddion yn eu plith; felly, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.” Yna daeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Am ba hyd yr wyt am wrthod ymostwng o'm blaen? Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli. Os gwrthodi eu rhyddhau, fe ddof â locustiaid i mewn i'th wlad yfory; byddant yn gorchuddio wyneb y tir fel na ellir ei weld, yn bwyta'r ychydig a adawyd i chwi ar ôl y cenllysg, ac yn bwyta pob coeden o'ch eiddo sy'n tyfu yn y maes. Byddant yn llenwi dy dai, a thai dy weision i gyd, a thai'r holl Eifftiaid, mewn modd na welwyd ei debyg gan dy dadau na'th deidiau, o'r dydd y buont ar y ddaear hyd heddiw.” Yna trodd ac aeth allan o ŵydd Pharo. Dywedodd gweision Pharo wrtho, “Am ba hyd y mae'r dyn hwn yn mynd i fod yn fagl inni? Gollwng y bobl yn rhydd, er mwyn iddynt addoli'r ARGLWYDD eu Duw; onid wyt ti eto'n deall bod yr Aifft wedi ei difetha?” Felly daethpwyd â Moses ac Aaron yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthynt, “Cewch fynd i addoli'r ARGLWYDD eich Duw; ond pa rai ohonoch sydd am fynd?” Dywedodd Moses, “Byddwn yn mynd gyda'r ifainc a'r hen, gyda'n meibion a'n merched, gyda'n defaid a'n gwartheg, oherwydd rhaid inni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD.” Dywedodd yntau wrthynt, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi os byth y rhyddhaf chwi a'ch rhai bychain! Edrychwch, rhyw ddrwg sydd gennych mewn golwg. Na, y gwŷr yn unig a gaiff fynd i addoli'r ARGLWYDD, oherwydd dyna oedd eich dymuniad.” Yna fe'u gyrrwyd allan o ŵydd Pharo. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law dros wlad yr Aifft er mwyn i'r locustiaid ddisgyn ar dir yr Aifft, a bwyta holl lysiau'r ddaear a'r cyfan a adawyd ar ôl y cenllysg.” Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod â'r locustiaid. Daeth y locustiaid i fyny dros yr holl wlad a disgyn ym mhob ardal yn yr Aifft. Ni welwyd y fath bla trwm o locustiaid erioed o'r blaen, ac ni welir ei debyg eto. Yr oeddent yn gorchuddio wyneb y tir nes bod y wlad i gyd yn ddu, ac yr oeddent yn bwyta holl lysiau'r ddaear a holl ffrwythau'r coed oedd wedi eu gadael ar ôl y cenllysg; nid oedd dim gwyrdd ar ôl ar y coed na'r planhigion trwy holl wlad yr Aifft. Brysiodd Pharo i anfon am Moses ac Aaron a dweud, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw ac yn eich erbyn chwithau. Yn awr, maddau fy mhechod am y tro hwn yn unig, a gweddïwch ar i'r ARGLWYDD eich Duw symud ymaith y pla marwol hwn oddi wrthyf.” Felly aeth Moses allan o ŵydd Pharo, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD. Gyrrodd yr ARGLWYDD wynt cryf iawn o'r gorllewin, a chododd hwnnw'r locustiaid a'u cludo i'r Môr Coch; ni adawyd yr un o'r locustiaid ar ôl yn unman yn yr Aifft. Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd ryddhau'r Israeliaid. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, a bydd tywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch y gellir ei deimlo.” Felly estynnodd Moses ei law tua'r nefoedd, a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft am dridiau. Ni allai'r bobl weld ei gilydd, ac ni symudodd neb o'i le am dri diwrnod, ond yr oedd gan yr Israeliaid oleuni yn y lle'r oeddent yn byw. Galwodd Pharo am Moses a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD; caiff eich plant hefyd fynd gyda chwi, ond rhaid i'ch defaid a'ch gwartheg aros ar ôl.” Ond dywedodd Moses, “Rhaid iti hefyd adael inni gael ebyrth a phoethoffrymau i'w haberthu i'r ARGLWYDD ein Duw; a rhaid i'n hanifeiliaid hefyd fynd gyda ni; ni adawn yr un carn ar ôl, oherwydd byddwn yn defnyddio rhai ohonynt at wasanaeth yr ARGLWYDD ein Duw, ac ni fyddwn yn gwybod â pha beth yr ydym i'w wasanaethu nes inni gyrraedd yno.” Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd eu rhyddhau. Dywedodd Pharo wrtho, “Dos ymaith oddi wrthyf, a gofala na fyddi'n gweld fy wyneb eto, oherwydd ar y dydd y byddi'n fy ngweld, byddi farw.” Atebodd Moses, “Fel y mynni di; ni welaf dy wyneb byth mwy.”

Exodus 10:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharo: oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef: Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft, a’m harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD. A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i’th fro; A hwynt-hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear: a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg; difânt hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes. Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Eifftiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharo. A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr ARGLWYDD eu DUW: Oni wyddost ti eto ddifetha’r Aifft? A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW: ond pa rai sydd yn myned? A Moses a ddywedodd, A’n llanciau, ac â’n hynafgwyr, yr awn ni; â’n meibion hefyd, ac â’n merched, â’n defaid, ac â’n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i’r ARGLWYDD Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo’r ARGLWYDD gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a’ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd. Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr ARGLWYDD: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o ŵydd Pharo. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid, fel y delont i fyny ar dir yr Aifft; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a’r a adawodd y cenllysg. A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a’r ARGLWYDD a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid. A’r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i’r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu’r fath locustiaid o’u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb. Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft. Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW, ac yn eich erbyn chwithau. Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr ARGLWYDD eich DUW, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig. A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a’u bwriodd hwynt i’r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft. Er hynny caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo. A Moses a estynnodd ei law tua’r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod. Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o’i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau. A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD; arhoed eich defaid, a’ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi. A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoethoffrymau, fel yr aberthom i’r ARGLWYDD ein DUW. Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr ARGLWYDD ein DUW: ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr ARGLWYDD, hyd oni ddelom yno. Ond yr ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt. A dywedodd Pharo wrtho, Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw. A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.