Esther 1:6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Esther 1:6 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobman wedi’i addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi’i wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw’n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau drwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill.
Esther 1:6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno lenni gwyn a glas wedi eu rhwymo â llinynnau o sidan a phorffor wrth gadwynau arian ar golofnau marmor. Yr oedd yno welyau o aur ac arian ar lawr o risial, marmor, alabastr a glasfaen gwerthfawr.
Esther 1:6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct.