Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 4:2-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Effesiaid 4:2-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi’ch gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch.

Effesiaid 4:2-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.

Effesiaid 4:2-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.