Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 3:10 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Effesiaid 3:10 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pwrpas Duw ydy i’r rhai sy’n llywodraethu ac i’r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A’r eglwys sy’n dangos hynny iddyn nhw.

Effesiaid 3:10 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd.

Effesiaid 3:10 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw