Effesiaid 1:11-12
Effesiaid 1:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â’r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu’r cwbl ymlaen llaw. Mae’n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. Mae am i ni’r Iddewon, y rhai cyntaf i roi’n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych.
Effesiaid 1:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ynddo ef hefyd rhoddwyd i ni ran yn yr etifeddiaeth, yn rhinwedd ein rhagordeinio yn ôl arfaeth yr hwn sy'n gweithredu pob peth yn ôl ei fwriad a'i ewyllys ei hun. A thrwy hyn yr ydym ni, y rhai cyntaf i obeithio yng Nghrist, i ddwyn clod i'w ogoniant ef.
Effesiaid 1:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn yr hwn y’n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun: Fel y byddem ni er mawl i’w ogoniant ef, y rhai o’r blaen a obeithiasom yng Nghrist.