Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 9:5-6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Pregethwr 9:5-6 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae’r byw yn gwybod eu bod nhw’n mynd i farw, ond dydy’r meirw’n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw. Beth oedden nhw’n ei garu, beth oedden nhw’n ei gasáu, a’r hyn oedd yn eu gwneud nhw’n genfigennus – mae’r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy’n digwydd yn y byd.

Pregethwr 9:5-6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt. Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.

Pregethwr 9:5-6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd. Eu cariad hefyd, a’u cas, a’u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.