Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 9:1-12

Pregethwr 9:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly ystyriais y cwbl yn fanwl, i geisio deall trefn popeth. A dod i’r casgliad fod y bobl sy’n gwneud beth sy’n iawn (y rhai doeth a’r cwbl maen nhw’n ei wneud) yn llaw Duw. Fyddan nhw’n cael eu caru neu eu casáu? Does neb yn gwybod beth sydd o’u blaenau nhw. A’r un dynged sy’n disgwyl pawb: y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, a’r rhai drwg, y rhai sy’n barod i addoli, a’r rhai sydd ddim; yr un sy’n cyflwyno aberth i Dduw, a’r un sydd ddim yn aberthu. Mae’r un peth yn digwydd i’r bobl sy’n plesio Duw ac i’r rhai sydd ddim; i’r un sy’n tyngu llw i Dduw, a’r un sy’n gwrthod gwneud hynny. Dyna sydd mor annheg am yr hyn sy’n digwydd yn y byd: yr un dynged sy’n wynebu pawb! Mae pawb fel petaen nhw am wneud drwg; mae’r ffordd maen nhw’n byw yn wallgof! A beth sy’n dod wedyn? – Marwolaeth! Does dim eithriadau! O leia mae gan rywun sy’n fyw rywbeth i edrych ymlaen ato – “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw”. Mae’r byw yn gwybod eu bod nhw’n mynd i farw, ond dydy’r meirw’n gwybod dim byd! Does dim gwobr arall yn eu disgwyl nhw, ac mae pawb yn eu hanghofio nhw. Beth oedden nhw’n ei garu, beth oedden nhw’n ei gasáu, a’r hyn oedd yn eu gwneud nhw’n genfigennus – mae’r cwbl wedi hen fynd! Does ganddyn nhw ddim rhan byth eto yn yr hyn sy’n digwydd yn y byd. Dos, mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen! Dyna mae Duw am i ti ei wneud. Gwisga dy ddillad gorau, a pharatoi dy hun i fynd allan i fwynhau. Mwynha fywyd gyda’r wraig rwyt ti’n ei charu am y cyfnod byr wyt ti yn y byd dryslyd yma. Mae’n rhodd Duw i ti am dy holl waith caled ar y ddaear. Gwna dy orau glas, beth bynnag wyt ti’n ei wneud. Fydd dim cyfle i weithio na myfyrio, dim gwybodaeth na doethineb ym myd y meirw lle rwyt ti’n mynd. Yna, ystyriais eto yr hyn sy’n digwydd yn y byd: dydy’r cyflymaf ddim bob amser yn ennill y ras, na’r cryfaf yn ennill y frwydr; dydy’r doethaf ddim yn llwyddo bob tro, na’r clyfraf yn cael y cyfoeth; dydy’r un sy’n nabod eraill ddim bob amser yn cael ei ffafrio. Mae damweiniau’n gallu digwydd i bawb. Does neb yn gwybod pryd ddaw ei amser. Fel pysgod yn cael eu dal mewn rhwyd, neu adar mewn magl, mae rhyw anffawd yn gallu dod ar draws pobl yn gwbl ddirybudd.

Pregethwr 9:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ystyriais hyn i gyd, a chanfod bod y rhai cyfiawn a doeth â'u gweithredoedd yn llaw Duw, ac na ŵyr neb p'run ai cariad ai casineb sy'n ei aros. Yr un peth sy'n digwydd i bawb—i'r cyfiawn a'r drygionus, i'r da a'r drwg, i'r glân a'r aflan, i'r un sy'n aberthu a'r un nad yw'n aberthu. Y mae'r daionus a'r pechadur fel ei gilydd, a'r un sy'n tyngu llw fel yr un sy'n ofni gwneud hynny. Dyma sy'n ddrwg yn y cyfan a ddigwydd dan yr haul: mai'r un peth yw tynged pawb. Y mae calon pobl yn llawn drygioni, a ffolineb yn eu calonnau ar hyd eu bywyd, ac yna y maent yn marw. Y mae gobaith i'r un a gyfrifir ymysg y byw; oherwydd y mae ci byw yn well na llew marw. Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt. Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul. Dos, bwyta dy fwyd mewn llawenydd, ac yf dy win â chalon lawen, oherwydd y mae Duw eisoes yn fodlon ar dy weithredoedd. Gofala fod gennyt ddillad gwyn bob amser, a chofia roi olew ar dy ben. Mwynha fywyd gyda'r wraig yr wyt yn ei charu, a hynny yn ystod holl ddyddiau dy fywyd gwag a roddodd ef iti dan yr haul, oherwydd dyma yw dy dynged mewn bywyd, ac yn y llafur a gyflawni dan yr haul. Beth bynnag yr wyt yn ei wneud, gwna â'th holl egni; oherwydd yn Sheol, lle'r wyt yn mynd, nid oes gwaith na gorchwyl, deall na doethineb. Unwaith eto, dyma a sylwais dan yr haul: nid y cyflym sy'n ennill y ras, ac nid y cryf sy'n ennill y rhyfel; nid y doethion sy'n cael bwyd, nid y deallus sy'n cael cyfoeth, ac nid y rhai gwybodus sy'n cael ffafr. Hap a damwain sy'n digwydd iddynt i gyd. Ni ŵyr neb pa bryd y daw ei amser; fel y delir pysgod mewn rhwyd ac adar mewn magl, felly y delir pobl gan amser adfyd sy'n dod arnynt yn ddisymwth.

Pregethwr 9:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll; bod y cyfiawn, a’r doethion, a’u gweithredoedd, yn llaw DUW: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o’u blaen. Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn, ac i’r annuwiol; i’r da ac i’r glân, ac i’r aflan; i’r neb a abertha, ac i’r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a’r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu. Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw. Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw. Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd. Eu cariad hefyd, a’u cas, a’u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul. Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan DDUW dy weithredoedd. Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben. Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul. Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned. Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll. Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.