Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 8:2-15

Pregethwr 8:2-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i’n dweud, “Gwranda ar orchymyn y brenin – gan dy fod wedi tyngu llw o flaen Duw i wneud hynny.” Paid bod ar frys i fynd o’i bresenoldeb; a phaid oedi pan fydd pethau’n anghysurus. Gall y brenin wneud unrhyw beth mae’n ei ddewis. Mae gan y brenin awdurdod llwyr, a does gan neb hawl i ofyn iddo, “Beth wyt ti’n wneud?” Fydd yr un sy’n ufudd iddo ddim yn cael ei hun i drafferthion. Mae’r person doeth yn deall fod amser a threfn i bopeth. Mae amser penodol a threfn i bopeth. Ond mae’r perygl o ryw drasiedi’n digwydd yn pwyso’n drwm ar bobl. Does neb yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, hyd yn oed pan mae ar fin digwydd. Pwy sy’n gallu dweud? A does gan neb y gallu i ddal ati i anadlu pan mae’n marw; does neb yn gallu gohirio’r foment y bydd yn marw. All milwr ddim cael ei ryddhau o ganol y frwydr, a’r un modd all gwneud drwg ddim achub pobl ddrwg. Wrth i mi fynd ati o ddifrif i feddwl am bopeth sy’n digwydd yn y byd, dw i wedi sylweddoli hyn: mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael angladd parchus. Roedden nhw’n arfer mynd a dod o’r lle sanctaidd, tra oedd y rhai yn y ddinas oedd wedi byw yn iawn yn cael eu hanghofio. Beth ydy’r pwynt? Os ydy drygioni ddim yn cael ei gosbi ar unwaith, mae pobl yn cael eu hannog i wneud drwg. Mae pechadur yn cyflawni’r un drwg ganwaith, ac yn dal i gael byw’n hir. Ond dw i’n gwybod yn iawn y bydd hi’n well ar y rhai sy’n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw’n dangos parch ato. Fydd hi ddim yn dda ar y rhai sy’n gwneud pethau drwg, oherwydd, fel cysgod, fyddan nhw ddim yn aros yn hir, am nad ydyn nhw’n parchu Duw. Ond wedyn, dyma beth sy’n gwneud dim sens yn y byd yma: mae rhai pobl sydd wedi byw yn ufudd i Dduw yn cael eu trin fel petaen nhw wedi gwneud drwg; ac mae rhai pobl ddrwg sy’n cael eu trin fel petaen nhw wedi byw yn iawn! Fel dw i’n dweud, dydy’r peth yn gwneud dim sens! Felly dw i’n argymell y dylid mwynhau bywyd. Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun. Mae’r pleserau yma yn rhywbeth mae Duw yn eu rhoi iddo ochr yn ochr â’i holl waith caled yn ystod ei fywyd.

Pregethwr 8:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Cadw orchymyn y brenin, o achos y llw i Dduw. Paid â rhuthro o'i ŵydd, na dyfalbarhau gyda'r hyn sydd ddrwg, oherwydd y mae ef yn gwneud yr hyn a ddymuna. Y mae awdurdod yng ngair y brenin, a phwy a all ofyn iddo, “Beth wyt yn ei wneud?” Ni ddaw niwed i'r un sy'n cadw gorchymyn, a gŵyr y doeth yr amser a'r ffordd i weithredu. Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt. Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd? Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr. Gwelais hyn i gyd wrth imi sylwi ar yr hyn a ddigwydd dan yr haul, pan fydd rhywun yn arglwyddiaethu ar ei gymrodyr i beri niwed iddynt. Yna gwelais bobl ddrwg yn cael eu claddu. Arferent fynd a dod o'r lle sanctaidd, a chael eu canmol yn y ddinas lle'r oeddent wedi gwneud y pethau hyn. Y mae hyn hefyd yn wagedd. Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni. Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu. Ni fydd daioni i'r drygionus, ac nid estynnir ei ddyddiau fel cysgod, am nad yw'n ofni Duw. Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd. Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.

Pregethwr 8:2-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw DUW. Na ddos ar frys allan o’i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun. Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur? Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn. Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno. Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd? Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog. Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo. Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd. Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg. Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant DDUW, y rhai a arswydant ger ei fron ef. Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron DUW. Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd. Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes DUW iddo dan yr haul.