Pregethwr 5:1-7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Pregethwr 5:1-7 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gwylia beth rwyt ti’n ei wneud wrth fynd i addoli Duw. Dos yno i wrando, ddim i gyflwyno offrwm ffyliaid, oherwydd dydy’r rheiny ddim yn gwybod eu bod nhw’n gwneud rhywbeth o’i le. Paid bod yn rhy barod dy dafod, ac ar ormod o frys i ddweud dy farn wrth Dduw. Mae Duw yn y nefoedd a tithau ar y ddaear. Dylet ti bwyso a mesur dy eiriau. “Mae hunllefau’n dod wrth boeni gormod, a siarad ffôl wrth ddweud gormod.” Pan wyt ti’n gwneud adduned i Dduw, paid oedi cyn ei chyflawni. Dydy Duw ddim yn cael ei blesio gan ffyliaid. Gwna beth rwyt ti wedi addo’i wneud. Mae’n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf na gwneud un ac wedyn peidio’i chyflawni! Paid gadael i dy eiriau wneud i ti bechu, ac wedyn ceisio dadlau o flaen yr offeiriad, “Camgymeriad oedd e!” Paid digio Duw, a gwneud iddo ddinistrio popeth rwyt wedi gweithio amdano! “Mae gormod o freuddwydio ac o wneud addewidion gwag.”
Pregethwr 5:1-7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg. Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau. Yn wir, fe ddaw breuddwyd pan yw gorchwylion yn cynyddu, a siarad ffôl pan bentyrrir geiriau. Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu. Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio â chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu. Paid â gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid â dweud o flaen y cennad, “Camgymeriad oedd hyn.” Pam y dylai Duw gasáu dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo? Y mae llawer o freuddwydion ac amlder geiriau yn wagedd; ond ofna di Dduw.
Pregethwr 5:1-7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg. Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron DUW: canys DUW sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau. Pan addunedech adduned i DDUW, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu. Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai DUW wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo? Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di DDUW.