Pregethwr 3:1-15
Pregethwr 3:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae amser wedi’i bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy’n digwydd yn y byd: amser i gael eich geni ac amser i farw, amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd; amser i ladd ac amser i iacháu, amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu; amser i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i ddawnsio; amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig, amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio; amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll, amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd; amser i rwygo ac amser i bwytho, amser i gadw’n dawel ac amser i siarad; amser i garu ac amser i gasáu; amser i ryfel ac amser i heddwch. Felly, beth mae’r gweithiwr yn ei ennill ar ôl ei holl ymdrech? Dw i wedi ystyried yr holl bethau mae Duw wedi’u rhoi i bobl eu gwneud: Mae Duw’n gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith ar yr amser iawn. Mae hefyd wedi gwneud pobl yn ymwybodol o’r tragwyddol, ond dydy pobl ddim yn gallu darganfod popeth mae Duw’n bwriadu ei wneud yn ystod eu bywydau. Felly des i’r casgliad mai’r peth gorau all pobl ei wneud ydy bod yn hapus a mwynhau eu hunain tra byddan nhw byw. Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau. Des i’r casgliad hefyd fod popeth mae Duw yn ei wneud yn aros am byth: does dim modd ychwanegu ato, na thynnu dim oddi wrtho. Mae Duw wedi gwneud pethau fel hyn er mwyn i bobl ei barchu. “Mae popeth a fu yn dal i fod, a phopeth fydd fel popeth sydd. Mae Duw’n gwneud eto beth sydd wedi mynd heibio.”
Pregethwr 3:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef: amser i eni, ac amser i farw, amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio'r hyn a blannwyd; amser i ladd, ac amser i iacháu, amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu; amser i wylo, ac amser i chwerthin, amser i alaru, ac amser i ddawnsio; amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu, amser i gofleidio, ac amser i ymatal; amser i geisio, ac amser i golli, amser i gadw, ac amser i daflu ymaith; amser i rwygo, ac amser i drwsio, amser i dewi, ac amser i siarad; amser i garu, ac amser i gasáu, amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio? Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni. Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o'r dechrau i'r diwedd. Yr wyf yn gwybod nad oes dim yn well i bobl mewn bywyd na bod yn llawen a gwneud da, a gwn mai rhodd Duw yw fod pob un yn bwyta ac yn yfed ac yn cael mwynhad o'i holl lafur. Yr wyf yn gwybod hefyd fod y cyfan a wna Duw yn aros byth; ni ellir ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho. Gweithreda Duw fel hyn er mwyn i bobl ei barchu. Y mae'r hyn sy'n bod wedi bod eisoes, a'r hyn sydd i ddod hefyd wedi bod eisoes, ac y mae Duw yn chwilio am yr hyn a ddiflannodd.
Pregethwr 3:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch. Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? Mi a welais y blinder a roddes DUW ar feibion dynion, i ymflino ynddo. Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth DUW o’r dechreuad hyd y diwedd. Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd. A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd DUW yw hynny. Mi a wn beth bynnag a wnêl DUW, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae DUW yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef. Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: DUW ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.