Pregethwr 2:24-26
Pregethwr 2:24-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith. A dyma fi’n sylweddoli mai Duw sy’n rhoi hyn i gyd i ni. Heb Dduw does neb yn gallu bwyta na mwynhau bywyd go iawn. Duw sy’n rhoi’r doethineb a’r gallu i fwynhau ei hun i’r sawl sy’n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae’r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael – a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i’w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae’n anodd gwneud sens o’r cwbl – mae fel ceisio rheoli’r gwynt.
Pregethwr 2:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw; oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef? Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Pregethwr 2:24-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law DUW yr oedd hyn. Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a’i mwynhâi, o’m blaen i? Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd DUW ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron DUW. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.