Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 2:18-20 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Pregethwr 2:18-20 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Rôn i’n casáu’r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i’r un fyddai’n dod ar fy ôl i. A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw’n ddoeth neu’n ffŵl? Ond bydd e’n dal i reoli’r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i’w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens! Rôn i’n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi’i gyflawni ar y ddaear.

Pregethwr 2:18-20 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr oeddwn yn casáu'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy ôl; a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ffôl fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd. Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul.

Pregethwr 2:18-20 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i. A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd. Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul.