Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 1:8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Pregethwr 1:8 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae’r cwbl yn un cylch diddiwedd! Dydy hi ddim posib dweud popeth. Dydy’r llygad byth wedi gweld digon, na’r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon.

Pregethwr 1:8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae pob peth mor flinderus fel na all neb ei fynegi; ni ddigonir y llygad trwy edrych, na'r glust trwy glywed.

Pregethwr 1:8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed.