Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pregethwr 1:1-18

Pregethwr 1:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Geiriau yr Athro, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. Mae’n ddiystyr! – meddai’r Athro – Dydy e’n gwneud dim sens! Mae’r cwbl yn hollol absẃrd! Beth ydy’r pwynt gwneud unrhyw beth? Beth sydd i’w ennill o weithio’n galed yn y byd yma? Mae un genhedlaeth yn mynd ac un arall yn dod, ond dydy’r byd ddim yn newid o gwbl. Mae’r haul yn codi ac yn machlud, yna rhuthro’n ôl i’r un lle, i godi eto. Mae’r gwynt yn chwythu i’r de, ac yna’n troi i’r gogledd. Mae’n troi ac yn troi, cyn dod yn ôl i’r un lle yn y diwedd. Mae’r nentydd i gyd yn llifo i’r môr, ac eto dydy’r môr byth yn llawn; maen nhw’n mynd yn ôl i lifo o’r un lle eto. Mae’r cwbl yn un cylch diddiwedd! Dydy hi ddim posib dweud popeth. Dydy’r llygad byth wedi gweld digon, na’r glust wedi clywed nes ei bod yn fodlon. Fydd dim yn wahanol yn y dyfodol – Yr un pethau fydd yn cael eu gwneud ag o’r blaen; does dim byd newydd dan yr haul! Weithiau mae pobl yn dweud am rywbeth, “Edrychwch, dyma i chi beth newydd!” Ond mae wedi digwydd o’r blaen, ymhell yn ôl, o flaen ein hamser ni. Does neb yn cofio pawb sydd wedi mynd, a fydd neb yn y dyfodol yn cofio pawb aeth o’u blaenau nhw chwaith. Roeddwn i, yr Athro, yn frenin ar wlad Israel yn Jerwsalem. Dyma fi’n mynd ati o ddifrif i astudio ac edrych yn fanwl ar bopeth sy’n digwydd yn y byd. Mae’n waith caled, wedi’i roi gan Dduw i’r ddynoliaeth. Edrychais ar bopeth oedd yn cael ei wneud ar y ddaear, a dod i’r casgliad fod dim atebion slic – mae fel ceisio rheoli’r gwynt. Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi’i blygu, na chyfrif rhywbeth sydd ddim yna! Meddyliais, “Dw i’n fwy llwyddiannus ac yn ddoethach na neb sydd wedi teyrnasu yn Jerwsalem o mlaen i. Mae gen i ddoethineb a gwybodaeth.” Dyma fi’n mynd ati o ddifrif i geisio deall gwerth doethineb, a deall pam mae pobl yn gwneud pethau mor hurt a ffôl. Ond dw i wedi dod i’r casgliad ei bod yn dasg amhosib, fel ceisio rheoli’r gwynt. Po fwya’r doethineb, mwya’r dolur; mae gwybod mwy yn arwain i fwy o boen calon.

Pregethwr 1:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Geiriau'r Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem: “Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd llwyr yw'r cyfan.” Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur, wrth iddo ymlafnio dan yr haul? Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond y mae'r ddaear yn aros am byth. Y mae'r haul yn codi ac yn machlud, ac yn brysio'n ôl i'r lle y cododd. Y mae'r gwynt yn chwythu i'r de, ac yna'n troi i'r gogledd; y mae'r gwynt yn troelli'n barhaus, ac yn dod yn ôl i'w gwrs. Y mae'r holl nentydd yn rhedeg i'r môr, ond nid yw'r môr byth yn llenwi; y mae'r nentydd yn mynd yn ôl i'w tarddle, ac yna'n llifo allan eto. Y mae pob peth mor flinderus fel na all neb ei fynegi; ni ddigonir y llygad trwy edrych, na'r glust trwy glywed. Yr hyn a fu a fydd, a'r hyn a wnaed a wneir; nid oes dim newydd dan yr haul. A oes unrhyw beth y gellir dweud amdano, “Edrych, dyma beth newydd”? Y mae'r cyfan yn bod ers amser maith, y mae'n bod o'n blaenau ni. Ni chofir am y rhai a fu, nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hôl; ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn. Yr oeddwn i, y Pregethwr, yn frenin ar Israel yn Jerwsalem. Rhoddais fy mryd ar astudio a chwilio, trwy ddoethineb, y cyfan sy'n digwydd dan y nef. Gorchwyl diflas yw'r un a roddodd Duw i bobl ymboeni yn ei gylch. Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ar goll. Dywedais wrthyf fy hun, “Llwyddais i ennill mwy o ddoethineb nag unrhyw frenin o'm blaen yn Jerwsalem; cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth.” Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt. Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid, ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.

Pregethwr 1:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl. Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul? Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth. Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi. Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd. Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith. Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed. Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul. A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni. Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl. Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem; Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes DUW ar feibion dynion i ymguro ynddo. Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol. Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth. Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd. Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.