Deuteronomium 9:9-11
Deuteronomium 9:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan es i i fyny’r mynydd i dderbyn y llechi carreg, sef llechi ymrwymiad yr ARGLWYDD i chi, dyma fi’n aros yno nos a dydd am bedwar deg diwrnod, heb fwyta nac yfed o gwbl. A dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r ddwy lechen garreg i mi, gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw; y Deg Gorchymyn roedd e wedi’u rhoi i chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd. “Ar ddiwedd y cyfnod o bedwar deg diwrnod, dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r ddwy lechen garreg i mi, llechi’r ymrwymiad.
Deuteronomium 9:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan euthum i fyny i'r mynydd i dderbyn y llechau, llechau'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi, fe arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos heb fwyta nac yfed. Rhoddodd yr ARGLWYDD imi y ddwy lechen, llechau yr ysgrifennwyd arnynt gan fys Duw, ac arnynt yr oedd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân ar y mynydd ar ddydd y cynulliad. Ar ddiwedd y deugain diwrnod a deugain nos, rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r ddwy lechen, llechau'r cyfamod
Deuteronomium 9:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais. A rhoddes yr ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys DUW; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa. A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r ARGLWYDD ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.