Deuteronomium 5:9-10
Deuteronomium 5:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl, am fil o genedlaethau, at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud.
Deuteronomium 5:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu, ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.
Deuteronomium 5:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW ydwyf DDUW eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.