Deuteronomium 4:2-4
Deuteronomium 4:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch ychwanegu dim, na chymryd dim i ffwrdd. Gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw ydyn nhw, felly cadwch nhw! Gwelsoch beth wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor. Lladdodd yr ARGLWYDD bawb wnaeth addoli duw Baal-peor. Ond mae pawb ohonoch chi wnaeth aros yn ffyddlon i’r ARGLWYDD eu Duw, yn dal yn fyw.
Deuteronomium 4:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch ag ychwanegu dim at yr hyn yr wyf yn ei orchymyn ichwi, nac ychwaith dynnu oddi wrtho, ond cadw at orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw yr wyf fi yn eu gorchymyn ichwi. Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD yn Baal-peor; oherwydd dinistriodd yr ARGLWYDD eich Duw o'ch plith bob un oedd yn dilyn Baal-peor; ond yr ydych chwi i gyd sydd wedi glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw yn fyw hyd heddiw.
Deuteronomium 4:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi. Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD am Baal-peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal-peor, yr ARGLWYDD dy DDUW a’i difethodd ef o’th blith di. Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr ARGLWYDD eich DUW, byw ydych heddiw oll.