Deuteronomium 32:1-20
Deuteronomium 32:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nefoedd a daear, gwrandwch beth dw i’n ddweud! Bydd beth dw i’n ddweud fel cawod o law, a’m dysgeidiaeth fel diferion o wlith; bydd fel glaw yn disgyn ar borfa, neu law mân ar laswellt. Wrth i mi gyhoeddi enw’r ARGLWYDD, dwedwch mor fawr yw ein Duw! Mae e fel craig, a’i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy’n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest – yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn. Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon, a heb ymddwyn fel dylai ei blant – a dyna’r drwg. Maen nhw’n genhedlaeth anonest, sy’n twyllo. Ai dyma sut dych chi’n talu’n ôl i’r ARGLWYDD? Dych chi’n bobl mor ffôl! Onid fe ydy’ch tad chi, wnaeth eich creu chi? Fe sydd wedi’ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi! Cofiwch y dyddiau a fu; meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol: gofynnwch i’ch rhieni a’r genhedlaeth hŷn – byddan nhw’n gallu dweud wrthoch chi. Pan roddodd y Goruchaf dir i’r cenhedloedd, a rhannu’r ddynoliaeth yn grwpiau, gosododd ffiniau i’r gwahanol bobloedd a rhoi angel i ofalu am bob un. Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl; pobl Jacob oedd ei drysor sbesial. Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial; mewn anialwch gwag a gwyntog. Roedd yn eu cofleidio a’u dysgu, a’u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad. Fel eryr yn gwthio’i gywion o’r nyth, yna’n hofran a’u dal ar ei adenydd, dyma’r ARGLWYDD yn codi ei bobl ar ei adenydd e. Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain, nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw. Gwnaeth iddyn nhw goncro’r wlad heb rwystr, a chawson nhw fwyta o gynnyrch y tir. Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o’r creigiau, olew olewydd o’r tir caregog, caws colfran o’r gwartheg, a llaeth o’r geifr, gyda braster ŵyn, hyrddod a geifr Bashan. Cefaist fwyta’r gwenith gorau ac yfed y gwin gorau. Ond dyma Israel onest yn pesgi, a dechrau strancio – magu bloneg a mynd yn dewach a thewach! Yna troi cefn ar y Duw a’i gwnaeth, a sarhau y Graig wnaeth ei hachub; ei wneud yn eiddigeddus o’r duwiau paganaidd, a’i bryfocio gyda’u heilunod ffiaidd. Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw – duwiau doedden nhw’n gwybod dim amdanyn nhw; y duwiau diweddaraf, duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. Anwybyddu’r Graig wnaeth dy genhedlu, ac anghofio’r Duw roddodd enedigaeth i ti. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a’u gwrthod, am fod ei feibion a’i ferched wedi’i wylltio. Meddai, “Dw i’n mynd i droi cefn arnyn nhw, a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Maen nhw’n genhedlaeth anonest, yn blant sydd mor anffyddlon.
Deuteronomium 32:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrandewch, chwi nefoedd, a llefaraf; clyw, di ddaear, eiriau fy ngenau. Bydd fy nysgeidiaeth yn disgyn fel glaw, a'm hymadrodd yn diferu fel gwlith, fel glaw mân ar borfa, megis cawodydd ar laswellt. Pan gyhoeddaf enw yr ARGLWYDD, cyffeswch fawredd ein Duw. Ef yw'r Graig; perffaith yw ei waith, a chyfiawn yw ei ffyrdd bob un. Duw ffyddlon heb dwyll yw; un cyfiawn ac uniawn yw ef. Y genhedlaeth wyrgam a throfaus, sy'n ymddwyn mor llygredig tuag ato, nid ei blant ef ydynt o gwbl! Ai dyma eich tâl i'r ARGLWYDD, O bobl ynfyd ac angall? Onid ef yw dy dad, a'th luniodd, yr un a'th wnaeth ac a'th sefydlodd? Cofia'r dyddiau gynt, ystyria flynyddoedd y cenedlaethau a fu; gofyn i'th dad, ac fe fynega ef iti; neu i'th hynafgwyr, ac fe ddywedant hwy wrthyt. Pan roddodd y Goruchaf eu hetifeddiaeth i'r cenhedloedd, a gwasgaru'r ddynoliaeth ar led, fe bennodd derfynau'r bobloedd yn ôl rhifedi plant Duw. Ei bobl ei hun oedd rhan yr ARGLWYDD, Jacob oedd ei etifeddiaeth ef. Fe'i cafodd ef mewn gwlad anial, mewn gwagle erchyll, diffaith; amgylchodd ef a'i feithrin, amddiffynnodd ef fel cannwyll ei lygad. Fel eryr yn cyffroi ei nyth ac yn hofran uwch ei gywion, lledai ei adenydd a'u cymryd ato, a'u cludo ar ei esgyll. Yr ARGLWYDD ei hunan fu'n ei arwain, heb un duw estron gydag ef. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelderau'r ddaear, a bwyta cnwd y maes; parodd iddo sugno mêl o'r clogwyn, ac olew o'r graig gallestr. Cafodd ymenyn o'r fuches, llaeth y ddafad a braster ŵyn, hyrddod o frid Basan, a bychod, braster gronynnau gwenith hefyd, a gwin o sudd grawnwin i'w yfed. Bwytaodd Jacob, a'i ddigoni; pesgodd Jesurun, a chiciodd; pesgodd, a thewychu'n wancus. Gwrthododd y Duw a'i creodd, a diystyru Craig ei iachawdwriaeth. Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr, a'i ddigio ag arferion ffiaidd. Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau, ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod, duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion, nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu. Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd, a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd. Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy, oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo. Dywedodd, “Cuddiaf fy wyneb rhagddynt, edrychaf beth fydd eu diwedd; oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt, plant heb ffyddlondeb ynddynt.
Deuteronomium 32:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau. Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. Canys enw yr ARGLWYDD a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n DUW ni. Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: DUW gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe. Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef. Ai hyn a delwch i’r ARGLWYDD, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd? Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt. Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel. Canys rhan yr ARGLWYDD yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef. Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll: arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad. Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd; Felly yr ARGLWYDD yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr; Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist. A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd DDUW, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth. A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd-dra y digiasant ef. Aberthasant i gythreuliaid, nid i DDUW; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau. Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r DUW a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof. Yna y gwelodd yr ARGLWYDD, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched. Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.