Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 31:23 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Deuteronomium 31:23 BNET (beibl.net 2015, 2024)

A dyma’r ARGLWYDD yn comisiynu Josua fab Nwn, “Bydd yn gryf a dewr. Ti sy’n mynd i arwain pobl Israel i’r wlad dw i wedi addo ei rhoi iddyn nhw. Ond bydda i gyda ti.”

Deuteronomium 31:23 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

A rhoddodd yr ARGLWYDD orchymyn i Josua fab Nun a dweud wrtho, “Bydd yn gryf a dewr, oherwydd ti sydd i ddod â'r Israeliaid i'r wlad a addewais iddynt; a byddaf fi gyda thi.”

Deuteronomium 31:23 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.