Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 29:1-29

Deuteronomium 29:1-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma amodau’r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD orchymyn i Moses ei wneud gyda phobl Israel pan oedden nhw ar dir Moab. Roedd hwn yn ychwanegol i’r ymrwymiad wnaeth e gyda nhw ar Fynydd Sinai. Dyma Moses yn galw pobl Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gweld popeth wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i’r Pharo a’i swyddogion, a phawb arall drwy’r wlad. Gwelsoch sut wnaeth e eu cosbi nhw, a’r gwyrthiau rhyfeddol wnaeth e. Ond dydy’r ARGLWYDD ddim wedi rhoi’r gallu i chi ddeall y peth hyd heddiw. Does gynnoch chi ddim llygaid sy’n gweld na chlustiau sy’n clywed. Dw i wedi’ch arwain chi drwy’r anialwch am bedwar deg mlynedd. Dydy’ch dillad chi ddim wedi difetha, na’ch sandalau chwaith. Dych chi ddim wedi bwyta bara nac yfed gwin neu ddiod feddwol. A dw i wedi gwneud hyn i gyd er mwyn i chi ddeall mai fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi! Pan gyrhaeddoch chi yma, dyma Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, yn dod allan i ryfela yn ein herbyn ni, ond ni wnaeth ennill y frwydr. Dyma ni’n cymryd eu tir nhw, a’i roi i lwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse. “Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw amodau’r ymrwymiad yma, a bydd popeth wnewch chi yn llwyddo. Dych chi i gyd yn sefyll yma heddiw o flaen yr ARGLWYDD eich Duw – yn arweinwyr y llwythau, henuriaid, swyddogion, dynion, plant, gwragedd, a’r bobl o’r tu allan sydd gyda chi, yn torri coed ac yn cario dŵr. Dych chi i gyd yma i gytuno i amodau’r ymrwymiad mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei wneud gyda chi. Heddiw bydd e’n cadarnhau mai chi ydy ei bobl e, ac mai fe ydy’ch Duw chi, fel gwnaeth e addo i chi ar lw i Abraham, Isaac a Jacob. A dim chi sydd yma ydy’r unig rai dw i’n gwneud yr ymrwymiad yma gyda nhw, ond pawb sy’n fodlon sefyll gyda ni o flaen yr ARGLWYDD ein Duw, a hefyd y rhai sydd ddim wedi’u geni eto. “Dych chi’n gwybod sut roedden ni’n byw yn yr Aifft, a sut roedd rhaid croesi’r gwahanol wledydd wrth deithio. Dych chi wedi gweld eu pethau ffiaidd nhw, a’u heilun-dduwiau o bren, carreg, arian ac aur. Gwnewch yn siŵr fod neb yn troi cefn ar yr ARGLWYDD ein Duw, a dechrau addoli duwiau’r cenhedloedd hynny – gŵr, gwraig, teulu na llwyth. Byddai hynny fel gadael i wreiddyn sy’n rhoi ffrwyth gwenwynig, chwerw, dyfu yn eich plith chi. Mae person felly yn clywed amodau’r ymrwymiad yma, ac eto’n dawel fach yn bendithio’i hun a dweud, ‘Bydd popeth yn iawn hyd yn oed os gwna i dynnu’n groes!’ Mae peth felly yn dinistrio’r tir da gyda’r tir sych. Fydd yr ARGLWYDD ddim yn maddau i’r person hwnnw. Bydd e’n wyllt gynddeiriog gydag e, a bydd y melltithion sydd yn y sgrôl yma yn dod arno. Bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared ag e’n llwyr! Bydd yr ARGLWYDD yn ei bigo allan o ganol llwythau Israel i gyd, yn union fel mae’r melltithion sydd yn sgrôl y Gyfraith yn dweud. “Bydd eich disgynyddion, a phobl sy’n teithio o wledydd pell, yn gweld fel roedd y wlad wedi dioddef o’r afiechydon a’r trasiedïau wnaeth yr ARGLWYDD eu hanfon. Bydd y tir i gyd wedi’i ddifetha gan frwmstan a halen a rwbel yn llosgi. Fydd dim yn cael ei blannu a fydd dim yn tyfu arno. Bydd fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboïm, gafodd eu dinistrio gan yr ARGLWYDD pan oedd e’n ddig. A bydd y cenhedloedd i gyd yn gofyn, ‘Pam mae’r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i’r wlad yma? Pam oedd e wedi gwylltio cymaint?’ A bydd pobl yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill – eilun-dduwiau doedden nhw’n gwybod dim amdanyn nhw, a ddim i fod i’w haddoli nhw. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio’n lân gyda nhw, a dyna pam wnaethon nhw ddioddef yr holl felltithion mae’r sgrôl yma’n sôn amdanyn nhw. Dyma’r ARGLWYDD yn eu diwreiddio nhw, a’u gyrru i wlad arall. Roedd yn flin, ac wedi digio’n lân gyda nhw.’ “Mae yna rai pethau, dim ond yr ARGLWYDD sy’n gwybod amdanyn nhw; ond mae pethau eraill sydd wedi’u datguddio i ni a’n disgynyddion, er mwyn i ni bob amser wneud beth mae’r gyfraith yn ei ddweud.

Deuteronomium 29:1-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma eiriau'r cyfamod y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ei wneud â'r Israeliaid yng ngwlad Moab, yn ychwanegol at y cyfamod a wnaeth â hwy yn Horeb. Galwodd Moses ar Israel gyfan, a dweud wrthynt: Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i Pharo a'i weision i gyd a'i holl wlad; gwelsoch y profion mawr, yr arwyddion a'r argoelion mawr hynny. Ond hyd y dydd hwn ni roddodd yr ARGLWYDD ichwi feddwl i ddeall, na llygaid i ganfod, na chlustiau i glywed. Yn ystod y deugain mlynedd yr arweiniais chwi drwy'r anialwch, ni threuliodd eich dillad na'r sandalau am eich traed. Nid oeddech yn bwyta bara nac yn yfed gwin na diod gadarn, a hynny er mwyn ichwi sylweddoli mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw. Pan ddaethoch i'r lle hwn, daeth Sihon brenin Hesbon ac Og brenin Basan yn ein herbyn i ryfel, ond fe'u gorchfygwyd gennym. Wedi inni gymryd eu tir, rhoesom ef yn etifeddiaeth i lwythau Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse. Gofalwch gadw gofynion y cyfamod hwn, er mwyn ichwi lwyddo ym mhopeth a wnewch. Yr ydych yn sefyll yma heddiw gerbron yr ARGLWYDD eich Duw, pob un ohonoch: penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid a'ch swyddogion, pawb o wŷr Israel, a hefyd eich plant, eich gwragedd, a'r dieithryn sy'n byw yn eich mysg, yn torri tanwydd ac yn codi dŵr ichwi. Yr ydych yn sefyll i dderbyn cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, a'r cytundeb trwy lw y mae'n ei wneud â chwi heddiw, i'ch sefydlu'n bobl iddo'i hun, ac yntau'n Dduw i chwi, fel y dywedodd wrthych, ac fel yr addawodd i'ch tadau, Abraham, Isaac a Jacob. Yr wyf yn gwneud y cyfamod a'r cytundeb hwn trwy lw, nid yn unig â chwi sy'n sefyll yma gyda ni heddiw gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, ond hefyd â'r rhai nad ydynt yma gyda ni heddiw. Oherwydd fe wyddoch sut yr oedd, pan oeddem yn byw yng ngwlad yr Aifft a phan ddaethom drwy ganol y cenhedloedd ar y ffordd yma; gwelsoch eu delwau ffiaidd a'u heilunod o bren a charreg, o arian ac aur. Gwyliwch rhag bod yn eich mysg heddiw na gŵr, gwraig, tylwyth, na llwyth a'i galon yn troi oddi wrth yr ARGLWYDD ein Duw i fynd ac addoli duwiau'r cenhedloedd hynny, a rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn cynhyrchu ffrwyth gwenwynig a chwerw. Os bydd un felly yn clywed geiriau'r cytundeb hwn trwy lw, yn ei ganmol ei hun yn ei galon ac yn dweud, “Byddaf fi'n ddiogel, er imi rodio yn fy nghyndynrwydd”, gwylied; oherwydd ysgubir ymaith y tir a ddyfrhawyd yn ogystal â'r sychdir. Bydd yr ARGLWYDD yn anfodlon maddau iddo; yn wir bydd ei ddicter a'i eiddigedd yn cynnau yn erbyn hwnnw, a bydd yr holl felltithion a groniclir yn y llyfr hwn yn disgyn arno. Bydd yr ARGLWYDD yn dileu ei enw oddi tan y nefoedd, ac yn ei osod ar wahân i lwythau Israel i dderbyn drwg yn ôl holl felltithion y cyfamod a gynhwysir yn y llyfr hwn o'r gyfraith. Bydd y genhedlaeth nesaf, sef eich plant a ddaw ar eich ôl, a'r estron a ddaw o wlad bell, yn gweld y plâu a'r clefydau a anfonodd yr ARGLWYDD ar y wlad. Bydd brwmstan a halen wedi llosgi'r holl dir, heb ddim yn cael ei hau, na dim yn egino, na'r un blewyn glas yn tyfu ynddo. Bydd fel galanastra Sodom a Gomorra, neu Adma a Seboim, y bu i'r ARGLWYDD eu dymchwel yn ei ddicter a'i lid. A bydd yr holl genhedloedd yn gofyn, “Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD hyn i'r wlad hon? Pam y dicter mawr, deifiol hwn?” A'r ateb fydd: “Am iddynt dorri cyfamod ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid, y cyfamod a wnaeth â hwy pan ddaeth â hwy allan o'r Aifft. Aethant a gwasanaethu duwiau estron, ac addoli duwiau nad oeddent wedi eu hadnabod ac nad oedd ef wedi eu pennu ar eu cyfer. Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn y wlad honno, fel y dygodd arni'r holl felltithion a gynhwysir yn y llyfr hwn. Dinistriodd yr ARGLWYDD hwy o'u tir mewn digofaint a llid a dicter mawr, a'u bwrw i wlad arall, lle y maent o hyd.” Y mae'r pethau dirgel yn eiddo i'r ARGLWYDD ein Duw; ond y mae'r pethau a ddatguddiwyd yn perthyn am byth i ni a'n plant, er mwyn i ni gadw holl ofynion y gyfraith hon.

Deuteronomium 29:1-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb. A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir; Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny: Ond ni roddodd yr ARGLWYDD i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn. Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed. Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi. A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a’u lladdasom hwynt: Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse. Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch. Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD eich DUW; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel, Eich plant, eich gwragedd, a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr: I fyned ohonot dan gyfamod yr ARGLWYDD dy DDUW, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei wneuthur â thi heddiw: I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn DDUW i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a’r cynghrair yma; Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr ARGLWYDD ein DUW, ac â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw: (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt; A chwi a welsoch eu ffieidd-dra hwynt a’u heilun-dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:) Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr ARGLWYDD ein DUW, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod: A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched: Ni fyn yr ARGLWYDD faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr ARGLWYDD a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r ARGLWYDD a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd. A’r ARGLWYDD a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon. A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr ARGLWYDD yn ei chlwyfo hi; A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo, fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr ARGLWYDD yn ei lid a’i ddigofaint: Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn? Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft. Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt. Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r ARGLWYDD a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw. Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr ARGLWYDD ein DUW, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.