Deuteronomium 24:1-4
Deuteronomium 24:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy dyn wedi priodi, ac yna’n darganfod rhywbeth am ei wraig sy’n codi cywilydd arno, rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Ar ôl iddi ei adael, mae hi’n rhydd i ailbriodi. Os ydy’r ail ŵr ddim yn hapus gyda hi, rhaid iddo yntau roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon hi i ffwrdd. Os bydd hynny’n digwydd, neu os bydd e’n marw, dydy’r gŵr cyntaf ddim i gael ei chymryd hi’n ôl, am ei bod hi bellach yn aflan. Byddai peth felly yn ffiaidd yng ngolwg yr ARGLWYDD. Rhaid i chi beidio dod â phechod ar y wlad mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi i’w hetifeddu.
Deuteronomium 24:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os bydd dyn wedi cymryd gwraig a'i phriodi, a hithau wedyn heb fod yn ei fodloni am iddo gael rhywbeth anweddus ynddi, yna y mae i ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i dŷ. Wedi iddi adael ei dŷ, os daw yn wraig i rywun arall, a hwnnw wedyn yn ei chasáu ac yn ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i dŷ, neu os bydd yr ail ŵr yn marw, yna ni all ei phriod cyntaf, a oedd wedi ei hysgaru, ei hailbriodi wedi iddi gael ei halogi. Byddai hynny'n beth ffiaidd gerbron yr ARGLWYDD, ac nid ydych i ddwyn pechod ar y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n feddiant ichwi.
Deuteronomium 24:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra yw hwn o flaen yr ARGLWYDD; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti yn etifeddiaeth.