Daniel 9:24-27
Daniel 9:24-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae saith deg cyfnod o saith wedi’u pennu i dy bobl a’r ddinas sanctaidd roi diwedd ar eu gwrthryfel. I ddod â’r pechu i ben, delio gyda drygioni a gwneud pethau’n iawn unwaith ac am byth. I gadarnhau y weledigaeth broffwydol, ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd. Felly rhaid i ti ddeall: O’r amser pan gafodd y gorchymyn ei roi i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem nes daw un wedi’i eneinio yn arweinydd, bydd saith cyfnod o saith. Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a’i hailadeiladu gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn am chwe deg dau cyfnod o saith. Ond bydd hi’n amser caled, argyfyngus. Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith, bydd yr un wedi’i eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd, bydd heb ddim. Yna bydd y ddinas a’r deml yn cael eu dinistrio gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod. Bydd y diwedd yn dod fel llif. Bydd rhyfela’n para i’r diwedd. Mae dinistr wedi’i gyhoeddi. Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda’r tyrfaoedd am un cyfnod o saith. Ond hanner ffordd drwy’r saith bydd yn stopio’r aberthau a’r offrymau. Yna ar yr adain bydd yn codi eilun ffiaidd sy’n dinistrio, nes i’r dinistr sydd wedi’i ddyfarnu ddod ar yr un sy’n dinistrio.”
Daniel 9:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Nodwyd deg wythnos a thrigain i'th bobl ac i'th ddinas sanctaidd, i roi diwedd ar wrthryfel a therfyn ar bechodau, i wneud iawn am ddrygioni ac i adfer cyfiawnder tragwyddol; i roi sêl ar weledigaeth a phroffwydoliaeth, ac i eneinio'r lle sancteiddiolaf. Deall hyn ac ystyria: bydd saith wythnos o'r amser y daeth gorchymyn i ailadeiladu Jerwsalem hyd ddyfodiad tywysog eneiniog; yna am ddwy wythnos a thrigain adnewyddir heol a ffos, ond bydd yn amser adfyd. Ac ar ôl y ddwy wythnos a thrigain fe leddir yr un eneiniog heb neb o'i du, a difethir y ddinas a'r cysegr gan filwyr tywysog sydd i ddod. Bydd yn gorffen mewn llifeiriant, gyda rhyfel yn peri anghyfanedd-dra hyd y diwedd. Fe wna gyfamod cadarn â llawer am un wythnos, ac am hanner yr wythnos rhydd derfyn ar aberth ac offrwm. Ac yn sgîl y ffieiddbeth daw anrheithiwr, a erys hyd y diwedd, pan dywelltir ar yr anrheithiwr yr hyn a ddywedwyd.”
Daniel 9:24-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf. Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a’r mur, sef mewn amseroedd blinion. Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol. Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd-offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.