Daniel 7:9-10
Daniel 7:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth i mi syllu, cafodd gorseddau eu gosod i fyny, a dyma’r Un Hynafol yn eistedd. Roedd ei ddillad yn wyn fel eira, a’i wallt fel gwlân oen. Roedd ei orsedd yn fflamau tân, a’i holwynion yn wenfflam. Roedd afon o dân yn llifo allan oddi wrtho. Roedd miloedd ar filoedd yn ei wasanaethu, a miliynau lawer yn sefyll o’i flaen. Eisteddodd y llys, ac agorwyd y llyfrau.
Daniel 7:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel yr oeddwn yn edrych, gosodwyd y gorseddau yn eu lle ac eisteddodd Hen Ddihenydd; yr oedd ei wisg cyn wynned â'r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; yr oedd ei orsedd yn fflamau o dân, a'i holwynion yn dân crasboeth. Yr oedd afon danllyd yn llifo allan o'i flaen. Yr oedd mil o filoedd yn ei wasanaethu a myrdd o fyrddiynau'n sefyll ger ei fron. Eisteddodd y llys ac agorwyd y llyfrau.
Daniel 7:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a’r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â’r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a’i olwynion yn dân poeth. Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a’i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.