Daniel 6:19-20
Daniel 6:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd hi’n dechrau gwawrio’r bore wedyn dyma’r brenin yn brysio yn ôl at ffau’r llewod, ac wrth agosáu at y ffau dyma fe’n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy’r Duw wyt ti’n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”
Daniel 6:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod. Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, “Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?”
Daniel 6:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod. A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y DUW byw, a all dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?