Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 5:22-28 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Daniel 5:22-28 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Er eich bod chi, Belshasar, yn gwybod hyn i gyd, dych chithau wedi bod yr un mor falch. Dych chi wedi herio Arglwydd y nefoedd, drwy gymryd llestri ei deml a’u defnyddio nhw i yfed gwin ohonyn nhw – chi a’ch uchel-swyddogion, gyda’ch gwragedd a’ch cariadon i gyd. Ac wedyn dych chi wedi canmol eich duwiau o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg – duwiau sy’n gweld, clywed na deall dim! Ond dych chi ddim wedi canmol y Duw sy’n rhoi anadl i chi fyw, ac sy’n dal eich bywyd a’ch tynged yn ei law! Dyna pam anfonodd e’r llaw i ysgrifennu’r neges yma. “Dyma beth sydd wedi’i ysgrifennu: MENE, MENE, TECEL, a PHARSIN A dyma ystyr y geiriau: Ystyr MENE ydy ‘cyfrif’. Mae dyddiau eich teyrnasiad wedi’u rhifo. Mae Duw’n dod â nhw i ben. Ystyr TECEL ydy ‘pwyso’. Chi wedi’ch pwyso yn y glorian, a’ch cael yn brin. Ystyr PARSIN ydy ‘rhannu’. Mae’ch teyrnas wedi’i rhannu’n ei hanner a’i rhoi i Media a Persia.”

Daniel 5:22-28 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond amdanat ti, ei fab Belsassar, er iti wybod hyn oll, ni ddarostyngaist dy hun. Yr wyt wedi herio Arglwydd y Nefoedd trwy ddod â llestri ei dŷ ef o'th flaen, a thithau a'th dywysogion a'th wragedd a'th ordderchwragedd yn yfed gwin ohonynt. Yr wyt wedi moliannu duwiau o arian ac aur, o bres a haearn, o bren a charreg, nad ydynt yn clywed dim, nac yn gweld nac yn gwybod; ac nid wyt wedi mawrhau'r Duw y mae d'einioes a'th ffyrdd yn ei law. Dyna pam yr anfonwyd y llaw i ysgrifennu'r geiriau hyn. Fel hyn y mae'r ysgrifen yn darllen: ‘Mene, Mene, Tecel, Wparsin.’ A dyma'r dehongliad. ‘Mene’: rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben. ‘Tecel’: pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin. ‘Peres’: rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid.”

Daniel 5:22-28 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll; Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo. Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon. A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid.