Daniel 5:1-6
Daniel 5:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y Brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o’i uchel-swyddogion. A dyna lle roedd e’n yfed gwin o’u blaen nhw i gyd. Pan oedd y gwin wedi mynd i’w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â’r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi’u cymryd o’r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda’i uchel-swyddogion, ei wragedd a’i gariadon i gyd. Felly dyma nhw’n dod â’r llestri aur ac arian oedd wedi’u cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma’r brenin a’i uchel-swyddogion, ei wragedd a’i gariadon yn yfed ohonyn nhw. Wrth yfed y gwin roedden nhw’n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi’u gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg. Yna’n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i’w gweld yng ngolau’r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu. Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau’n wan a’i liniau’n crynu.
Daniel 5:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth y Brenin Belsassar wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac yfodd win gyda hwy. Wedi cael blas y gwin, gorchmynnodd Belsassar ddwyn y llestri aur ac arian a ladrataodd ei dad Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem, er mwyn i'r brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd yfed ohonynt. Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt. Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg. Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn â'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu. Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.
Daniel 5:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil. Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt. Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ DDUW, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt. Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen. Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd. Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.