Daniel 12:7
Daniel 12:7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwchben yr afon, yn codi ei ddwy law i’r awyr ac yn tyngu ar lw i’r Un sy’n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. Wedyn pan fydd grym yr un sy’n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”
Daniel 12:7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Sylwais ar y gŵr mewn gwisg liain a oedd ar lan bellaf yr afon; cododd ei ddwy law i'r nef a thyngu, “Cyn wired â bod y Tragwyddol yn fyw, am gyfnod a chyfnodau a hanner cyfnod y bydd hyn, a daw'r cwbl i ben pan roddir terfyn ar ddiddymu nerth y bobl sanctaidd.”
Daniel 12:7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll.