Daniel 12:1-4
Daniel 12:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny bydd Michael yn codi – yr arweinydd mawr sy’n gofalu am dy bobl. Bydd amser caled – gwaeth na dim mae’r wlad wedi’i brofi erioed o’r blaen. Ond bydd dy bobl di yn dianc – pawb sydd â’i henwau wedi’u hysgrifennu yn y llyfr. Bydd llawer o’r rhai sy’n gorwedd yn farw, wedi’u claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro – rhai i fywyd tragwyddol ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd. Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd. Bydd y rhai sy’n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd. “Rhaid i ti, Daniel, gadw’r neges yma’n gyfrinachol a selio’r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy’n digwydd.”
Daniel 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ac yn yr amser hwnnw cyfyd Mihangel, y tywysog mawr, sy'n gwarchod dros dy bobl; a bydd cyfnod blin na fu erioed ei fath er pan ffurfiwyd cenedl hyd yr amser hwnnw. Ond yn yr amser hwnnw gwaredir dy bobl, pob un yr ysgrifennwyd ei enw yn y llyfr. Bydd llawer o'r rhai sy'n cysgu yn llwch y ddaear yn deffro, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol. Disgleiria'r deallus fel y ffurfafen, a'r rhai sydd wedi troi llawer at gyfiawnder, byddant fel y sêr yn oes oesoedd. Ond amdanat ti, Daniel, cadw'r geiriau'n ddiogel, a selia'r llyfr hyd amser y diwedd. Bydd llawer yn rhedeg yma ac acw, a bydd gofid yn cynyddu.”
Daniel 12:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr. A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol. A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd. Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: llawer a gyniweirant, a gwybodaeth a amlheir.