Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Colosiaid 2:1-23

Colosiaid 2:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i’n gweithio drosoch chi a’r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i. Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a’u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi’i gadw o’r golwg o’r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw! Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi’u storio ynddo fe. Dw i’n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i’ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy’n swnio’n glyfar ond sydd ddim yn wir. Er fy mod i ddim gyda chi, dw i’n meddwl amdanoch chi drwy’r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi’n byw ac mor gadarn ydy’ch ffydd chi yn y Meseia. Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo – Cadwch eich gwreiddiau’n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi’i adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a’ch bywydau yn gorlifo o ddiolch. Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol a’r dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia. Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn gyfan gwbl yn byw mewn person dynol. A dych chi hefyd yn gyflawn am eich bod yn perthyn i’r Meseia, sy’n ben ar bob grym ac awdurdod! Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‘enwaedu’ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‘enwaediad’ ysbrydol mae’r Meseia yn ei gyflawni.) Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a’ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Pobl baganaidd o’r cenhedloedd oeddech chi, yn farw’n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi’n fyw gyda’r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni, ac wedi canslo’r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e’i hun y ddogfen honno a’i hoelio ar y groes. Wedi iddo ddiarfogi’r pwerau a’r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus – fel carcharorion rhyfel wedi’u concro ganddo ar y groes. Felly peidiwch gadael i unrhyw un eich beirniadu chi am beidio cadw mân-reolau am beth sy’n iawn i’w fwyta a’i yfed, neu am ddathlu gwyliau crefyddol, gŵyl y lleuad newydd neu’r Saboth. Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod – dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i’r peth go iawn. Peidiwch gadael i unrhyw un sy’n cael boddhad o ddisgyblu’r hunan eich condemnio chi. Maen nhw’n honni eu bod nhw’n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy’n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi’i weld. Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw. Dŷn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o’r corff yn cael ei ddal gyda’i gilydd gan y cymalau a’r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu. Buoch farw gyda’r Meseia, a dych chi wedi’ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy’n rheoli’r byd yma. Felly pam dych chi’n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi’n dal i ddilyn ffordd y byd? – “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!” (Mân-reolau wedi’u dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi’i fwyta!) Falle fod rheolau o’r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu’r corff a’i drin yn llym – ond dŷn nhw’n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.

Colosiaid 2:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd yr wyf am ichwi wybod cymaint yw fy ymdrech drosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea, a phawb sydd heb fy ngweld wyneb yn wyneb. Fy nod yw eu calonogi a'u clymu ynghyd mewn cariad, iddynt gael holl gyfoeth y sicrwydd a ddaw yn sgîl dealltwriaeth, ac iddynt amgyffred dirgelwch Duw, sef Crist. Ynddo ef y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. Yr wyf yn dweud hyn rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn â'u hymadrodd twyllodrus. Oherwydd, er fy mod yn absennol yn y cnawd, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenhau wrth weld eich rhengoedd disgybledig a chadernid eich ffydd yng Nghrist. Felly, gan eich bod wedi derbyn Crist Iesu, yr Arglwydd, dylech fyw ynddo ef. Cadwch eich gwreiddiau ynddo, gan gael eich adeiladu ynddo, a'ch cadarnhau yn y ffydd fel y'ch dysgwyd, a bod yn ddibrin eich diolch. Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist. Oherwydd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio'n gorfforol, ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef. Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod. Ynddo ef hefyd yr enwaedwyd arnoch ag enwaediad nad yw o waith llaw, ond yn hytrach o ddiosg y corff cnawdol; hwn yw enwaediad Crist. Claddwyd chwi gydag ef yn eich bedydd, ac yn y bedydd hefyd fe'ch cyfodwyd gydag ef drwy ffydd yn nerth Duw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw. Ac er eich bod yn feirw yn eich camweddau a'ch cnawd dienwaededig, fe'ch gwnaeth chwi yn fyw gydag ef. Y mae wedi maddau inni ein holl gamweddau, ac wedi diddymu'r ddogfen oedd yn ein rhwymo i'r gofynion a'n gwnâi ni yn ddyledwyr. Y mae wedi ei bwrw hi o'r neilltu; fe'i hoeliodd ar y groes. Diarfogodd y tywysogaethau a'r awdurdodau, a'u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes. Peidiwch, felly, â chymryd eich barnu gan neb ynglŷn â bwyta ac yfed, neu mewn perthynas â gŵyl neu newydd-loer neu Saboth. Cysgod yw'r rhain o'r pethau sy'n dod; Crist biau'r sylwedd. Peidiwch â chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd â'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos, ac nid oes ganddynt afael ar y pen. Ond oddi wrth y pen y mae'r holl gorff yn cael ei gynnal a'i gydgysylltu trwy'r cymalau a'r gewynnau, ac felly'n prifio â phrifiant sydd o Dduw. Os buoch farw gyda Christ i ysbrydion elfennig y cyfanfyd, pam yr ydych, fel petaech yn byw o hyd yn y byd, yn ymddarostwng i orchmynion: “Peidiwch â chyffwrdd”, “Peidiwch â blasu”, “Peidiwch â thrafod”— a hynny ynglŷn â phethau sydd i gyd yn darfod wrth eu defnyddio? Dilyn rheolau ac athrawiaethau dynol yr ydych. Y mae i'r fath bethau enw doethineb, gyda'u crefydd wneud, eu hunanddiraddiad, a'u triniaeth lem o'r corff. Ond nid ydynt o unrhyw werth i atal cnawdolrwydd.

Colosiaid 2:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi. Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw. Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau, (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha; ac na theimla; Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion? Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.