Colosiaid 1:15-20
Colosiaid 1:15-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n dangos yn union sut un ydy’r Duw anweledig – y ‘mab hynaf’ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i’w weld, a phopeth sy’n anweledig – y grymoedd a’r pwerau sy’n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i’w anrhydeddu e. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall, a fe sy’n dal y cwbl gyda’i gilydd. Fe hefyd ydy’r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a’r ‘mab hynaf’ oedd gyntaf i ddod yn ôl yn fyw, fel ei fod yn cael y lle blaenaf o’r cwbl i gyd. Achos roedd Duw yn gyfan wedi dewis byw ynddo, ac yn cymodi popeth ag e’i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes.
Colosiaid 1:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth; oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth. Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.
Colosiaid 1:15-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.