Actau 9:10-12 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 9:10-12 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yn byw yn Damascus roedd disgybl o’r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o’r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!” “Ie, Arglwydd,” atebodd. A dyma’r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o’r enw Saul. Mae yno’n gweddïo. Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o’r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.”
Actau 9:10-12 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus o'r enw Ananias, a dywedodd yr Arglwydd wrtho ef mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” Ac meddai'r Arglwydd wrtho, “Cod, a dos i'r stryd a elwir y Stryd Union, a gofyn yn nhŷ Jwdas am ddyn o Darsus o'r enw Saul; cei hyd iddo yno, yn gweddïo; ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ddyn o'r enw Ananias yn dod i mewn ac yn rhoi ei ddwylo arno i roi ei olwg yn ôl iddo.”
Actau 9:10-12 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo; Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith.