Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 7:23-29 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 7:23-29 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â’i bobl ei hun, sef pobl Israel. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i’w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi’i anfon i’w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â’i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi’n frodyr i’ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn?’ “Ond dyma’r dyn oedd ar fai yn gwthio Moses o’r ffordd ac yn dweud wrtho, ‘Pwy sydd wedi rhoi’r hawl i ti ein rheoli ni a’n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’ Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o’r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a chafodd dau fab eu geni iddo.

Actau 7:23-29 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel. Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr. Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall. Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’ Ond dyma'r un oedd yn gwneud cam â'i gymydog yn ei wthio i ffwrdd, gan ddweud, ‘Pwy a'th benododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A wyt ti am fy lladd i fel y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?’ A ffodd Moses ar y gair hwn, ac aeth yn alltud yn nhir Midian, lle y ganwyd iddo ddau fab.

Actau 7:23-29 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i’w galon ef ymweled â’i frodyr plant yr Israel. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a’i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro’r Eifftiwr. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt-hwy ni ddeallasant. A’r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a’u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â’ch gilydd? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, a’i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe? A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.