Actau 6:1-4
Actau 6:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw’n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. Felly dyma’r Deuddeg yn galw’r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy’n gwaith ni, dim trefnu’r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o’ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o’r Ysbryd Glân – dynion sy’n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni’n mynd i roi’r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. Wedyn byddwn ni’n gallu rhoi’n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”
Actau 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol. Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, “Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael gair Duw, i weini wrth fyrddau. Gyfeillion, dewiswch saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl. Fe barhawn ni yn ddyfal yn y gweddïo ac yng ngwasanaeth y gair.”
Actau 6:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol. Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.