Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 6:1-15

Actau 6:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw’n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. Felly dyma’r Deuddeg yn galw’r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy’n gwaith ni, dim trefnu’r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. “Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o’ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o’r Ysbryd Glân – dynion sy’n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni’n mynd i roi’r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. Wedyn byddwn ni’n gallu rhoi’n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.” Roedd y syniad yma’n plesio pawb, a dyma nhw’n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu’n gryf ac yn llawn o’r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia). Dyma nhw’n eu cyflwyno i’r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma’r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw. Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu’n gyflym. Roedd nifer fawr o’r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd. Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl, oedd yn dangos fod Duw gydag e. Ond dyma rhai o aelodau’r synagog oedd yn cael ei galw’n ‘Synagog y Dynion Rhydd’ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw’n dechrau dadlau gyda Steffan, ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd e mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad drwyddo. Felly dyma nhw’n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.” Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a’r henuriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw’n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin. Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae’r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses. Dŷn ni wedi’i glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio’r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.” Dyma pob un o aelodau’r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.

Actau 6:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y dyddiau hynny, pan oedd y disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Iddewon Groeg eu hiaith yn erbyn y rhai Hebraeg, am fod eu gweddwon hwy yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth feunyddiol. Galwodd y Deuddeg gynulleidfa'r disgyblion atynt, a dweud, “Nid yw'n addas ein bod ni'n gadael gair Duw, i weini wrth fyrddau. Gyfeillion, dewiswch saith o ddynion o'ch plith ac iddynt air da, yn llawn o'r Ysbryd ac o ddoethineb, ac fe'u gosodwn hwy ar hyn o orchwyl. Fe barhawn ni yn ddyfal yn y gweddïo ac yng ngwasanaeth y gair.” A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia. Gosodasant y rhain gerbron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant hwythau eu dwylo arnynt. Yr oedd gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd. Yr oedd Steffan, yn llawn gras a nerth, yn gwneud rhyfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl. Ond daeth rhai o'r synagog a elwid yn Synagog y Libertiniaid a'r Cyreniaid a'r Alexandriaid, a rhai o bobl Cilicia ac Asia, a dadlau â Steffan, ond ni allent wrthsefyll y ddoethineb a'r Ysbryd yr oedd yn llefaru drwyddo. Yna annog dynion a wnaethant i ddweud, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw.” A chynyrfasant y bobl a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, ac ymosod arno a'i gipio a dod ag ef gerbron y Sanhedrin, a gosod gau dystion i ddweud, “Y mae'r dyn yma byth a hefyd yn llefaru pethau yn erbyn y lle sanctaidd hwn a'r Gyfraith; oherwydd clywsom ef yn dweud y bydd Iesu'r Nasaread yma yn distrywio'r lle hwn, ac yn newid y defodau a draddododd Moses i ni.” A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel wyneb angel.

Actau 6:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol. Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair. A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy. A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd. Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl. Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan: Ac ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru. Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw. A hwy a gynyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a’i cipiasant ef, ac a’i dygasant i’r gynghorfa; Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith: Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni. Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.