Actau 3:17-26
Actau 3:17-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Frodyr a chwiorydd, dw i’n gwybod eich bod chi ddim yn sylweddoli beth oeddech yn ei wneud; ac mae’r un peth yn wir am eich arweinwyr chi. Ond dyma sut wnaeth Duw gyflawni beth oedd y proffwydi wedi dweud fyddai’n digwydd i’r Meseia, sef fod rhaid iddo ddioddef. Felly trowch gefn ar eich pechod, a throi at Dduw, a bydd eich pechodau chi’n cael eu maddau. Yna bydd yr Arglwydd yn anfon ei fendith, cyn iddo anfon y Meseia atoch unwaith eto, sef Iesu. Mae’n rhaid iddo aros yn y nefoedd nes daw’r amser pan fydd Duw yn gwneud popeth yn iawn am byth. Roedd wedi dweud hyn ymhell yn ôl drwy ei broffwydi. Dwedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi Proffwyd arall fel fi o’ch plith chi. Rhaid i chi wrando’n ofalus ar bopeth fydd yn ei ddweud wrthoch chi. Bydd pwy bynnag sy’n gwrthod gwrando ar y Proffwyd hwnnw yn cael ei dorri allan yn llwyr o blith pobl Dduw.’ “Yn wir, roedd pob un o’r proffwydi, o Samuel ymlaen, yn dweud ymlaen llaw am y cwbl fyddai’n digwydd yn ein dyddiau ni. Chi ydy’r plant sydd i etifeddu beth wnaeth y proffwydi ei addo a’r ymrwymiad wnaeth Duw i’ch cyndeidiau chi. Dyma ddwedodd wrth Abraham: ‘Drwy dy ddisgynyddion di bydd holl bobloedd y byd yn cael eu bendithio.’ Pan ddaeth Duw â’i was Iesu i’r golwg, cafodd ei anfon atoch chi’n gyntaf, i’ch bendithio chi drwy droi pob un ohonoch chi o’ch ffyrdd drwg.”
Actau 3:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, frodyr, gwn mai gweithredu mewn anwybodaeth a wnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau. Ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau'r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Feseia. Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad, ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu, yr hwn y mae'n rhaid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth a lefarodd Duw trwy enau ei broffwydi sanctaidd erioed. Dywedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel fi. Arno ef yr ydych i wrando ym mhob peth a lefara wrthych. A phob enaid na wrendy ar y proffwyd hwnnw, fe'i llwyr ddifodir o blith y bobl.’ A'r holl broffwydi o Samuel a'i olynwyr, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn. Chwi yw plant y proffwydi, a phlant y cyfamod a wnaeth Duw â'ch tadau pan ddywedodd wrth Abraham, ‘Yn dy ddisgynyddion di y bendithir holl dylwythau'r ddaear.’ Wedi i Dduw gyfodi ei Was, anfonodd ef atoch chwi yn gyntaf, i'ch bendithio chwi trwy eich troi bob un oddi wrth eich drygioni.”
Actau 3:17-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd. Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn. Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo’r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd; Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi: Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed. Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o’ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl. A’r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o’r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn. Chwychwi ydych blant y proffwydi, a’r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear. Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a’i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.