Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 3:11-16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 3:11-16 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyna lle roedd y cardotyn a’i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma’r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw. Pan welodd Pedr y bobl o’u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi’n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni’r gallu ynon ni’n hunain i wneud i’r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni’n rhyw bobl arbennig o dduwiol? Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i’r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau. Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le. Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e’n ôl yn fyw! Dŷn ni’n dystion i’r ffaith! Iesu roddodd y nerth i’r dyn yma o’ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a’r ffaith ein bod ni’n credu ynddo sydd wedi’i wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.

Actau 3:11-16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu. A phan welodd Pedr hyn, fe anerchodd y bobl: “Chwi Israeliaid, pam yr ydych yn rhyfeddu at hyn? Pam yr ydych yn syllu arnom ni, fel petaem wedi peri iddo gerdded trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni ein hunain? Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob, Duw ein tadau ni, sydd wedi gogoneddu ei Was Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi a'i wadu gerbron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau. Eithr chwi, gwadasoch yr Un sanctaidd a chyfiawn, a deisyf, fel ffafr i chwi, ryddhau llofrudd. Lladdasoch Awdur bywyd, ond cyfododd Duw ef oddi wrth y meirw. O hyn yr ydym ni'n dystion. Ar sail ffydd yn ei enw ef y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld a'i adnabod, a'r ffydd sydd drwy Iesu a roddodd iddo'r llwyr wellhad hwn yn eich gŵydd chwi i gyd.

Actau 3:11-16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon. A phan welodd Pedr, efe a atebodd i’r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio? Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a’i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i’w ollwng yn rhydd. Eithr chwi a wadasoch y Sanct a’r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog; A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o’r hyn yr ydym ni yn dystion. A’i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a’r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.