Actau 3:1-12
Actau 3:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod, am dri o’r gloch y p’nawn, roedd Pedr ac Ioan ar eu ffordd i’r deml i’r cyfarfod gweddi. Wrth y fynedfa sy’n cael ei galw ‘Y Fynedfa Hardd’ roedd dyn oedd ddim wedi gallu cerdded erioed. Roedd yn cael ei gario yno bob dydd, i gardota gan y bobl oedd yn mynd a dod i’r deml. Pan oedd Pedr ac Ioan yn pasio heibio gofynnodd iddyn nhw am arian. Dyma’r ddau yn edrych arno, a dyma Pedr yn dweud, “Edrych arnon ni.” Edrychodd y dyn arnyn nhw, gan feddwl ei fod yn mynd i gael rhywbeth ganddyn nhw. “Does gen i ddim arian i’w roi i ti,” meddai Pedr, “ond cei di beth sydd gen i i’w roi. Dw i’n dweud hyn gydag awdurdod Iesu y Meseia o Nasareth – cod ar dy draed a cherdda.” Yna gafaelodd yn llaw dde y dyn a’i helpu i godi ar ei draed. Cryfhaodd traed a choesau’r dyn yr eiliad honno, a dyma fe’n neidio ar ei draed a dechrau cerdded! Aeth i mewn i’r deml gyda nhw, yn neidio ac yn moli Duw. Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw, ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‘Fynedfa Hardd’ y deml. Roedden nhw wedi’u syfrdanu’n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo. Dyna lle roedd y cardotyn a’i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma’r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw. Pan welodd Pedr y bobl o’u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi’n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni’r gallu ynon ni’n hunain i wneud i’r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni’n rhyw bobl arbennig o dduwiol?
Actau 3:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Pedr ac Ioan yn mynd i fyny i'r deml erbyn yr awr weddi, sef tri o'r gloch y prynhawn. Ac yr oedd rhywrai'n dod â dyn oedd yn gloff o'i enedigaeth, ac yn ei osod beunydd wrth borth y deml, yr un a elwid y Porth Prydferth, i erfyn am gardod gan y rhai a fyddai'n mynd i mewn i'r deml. Pan welodd hwn Pedr ac Ioan ar fynd i mewn i'r deml, gofynnodd am gael cardod. Syllodd Pedr arno, ac Ioan yntau, a dywedodd, “Edrych arnom.” Gwyliodd yntau hwy, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. Dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi iti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda.” A gafaelodd ynddo gerfydd ei law dde, a chododd ef. Ac ar unwaith cryfhaodd ei draed a'i fferau; neidiodd i fyny, safodd, a dechreuodd gerdded, ac aeth i mewn gyda hwy i'r deml dan gerdded a neidio a moli Duw. Gwelodd yr holl bobl ef yn cerdded ac yn moli Duw. Yr oeddent yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn a fyddai'n eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, a llanwyd hwy â braw a syndod am yr hyn oedd wedi digwydd iddo. Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu. A phan welodd Pedr hyn, fe anerchodd y bobl: “Chwi Israeliaid, pam yr ydych yn rhyfeddu at hyn? Pam yr ydych yn syllu arnom ni, fel petaem wedi peri iddo gerdded trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni ein hunain?
Actau 3:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i’r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed. A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i’r deml. Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i’r deml, a ddeisyfodd gael elusen. A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni. Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt. Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhawyd. A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i’r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw. A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw. Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo. Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon. A phan welodd Pedr, efe a atebodd i’r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?