Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 28:1-14

Actau 28:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl cyrraedd y lan yn saff dyma ni’n darganfod mai Malta oedd yr ynys. Roedd pobl yr ynys yn hynod garedig. Dyma nhw’n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio’n drwm, ac roedd hi’n oer. Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o’r gwres yn glynu wrth ei law. Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae’n rhaid fod y dyn yna’n llofrudd! Dydy’r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.” Ond dyma Paul yn ysgwyd y neidr i ffwrdd yn ôl i’r tân. Chafodd e ddim niwed o gwbl. Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw’n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw’n dod i’r casgliad fod Paul yn dduw. Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys – dyn o’r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni’n aros yn ei gartref am dridiau. Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i’w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a’i iacháu. Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella. Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi’n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw’n rhoi popeth oedd ei angen i ni. Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o’r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno – llong o Alecsandria gyda delwau o’r ‘Efeilliaid dwyfol’ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen. Dyma ni’n hwylio i Syracwsa, ac yn aros yno am dridiau. Wedyn dyma ni’n croesi i Rhegium. Ar ôl bod yno am ddiwrnod cododd gwynt o’r de, felly’r diwrnod wedyn llwyddon ni i gyrraedd Potioli. Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o’r diwedd, dyma ni’n cyrraedd Rhufain.

Actau 28:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi inni ddod i ddiogelwch, cawsom wybod mai Melita y gelwid yr ynys. Dangosodd y brodorion garedigrwydd anghyffredin tuag atom. Cyneuasant goelcerth, a'n croesawu ni bawb at y tân, oherwydd yr oedd yn dechrau glawio, ac yn oer. Casglodd Paul beth wmbredd o danwydd, ac wedi iddo'u rhoi ar y tân, daeth gwiber allan o'r gwres, a glynu wrth ei law. Pan welodd y brodorion y neidr ynghrog wrth ei law, meddent wrth ei gilydd, “Llofrudd, yn sicr, yw'r dyn yma, ac er ei fod wedi dianc yn ddiogel o'r môr, nid yw'r dduwies Cyfiawnder wedi gadael iddo fyw.” Yna, ysgydwodd ef y neidr ymaith i'r tân, heb gael dim niwed; yr oeddent hwy'n disgwyl iddo ddechrau chwyddo, neu syrthio'n farw yn sydyn. Ar ôl iddynt ddisgwyl yn hir, a gweld nad oedd dim anghyffredin yn digwydd iddo, newidiasant eu meddwl a dechrau dweud mai duw ydoedd. Yng nghyffiniau'r lle hwnnw, yr oedd tiroedd gan ŵr blaenaf yr ynys, un o'r enw Poplius. Derbyniodd hwn ni, a'n lletya yn gyfeillgar am dridiau. Yr oedd tad Poplius yn digwydd bod yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o dwymyn a chan ddisentri. Aeth Paul i mewn ato, a chan weddïo a rhoi ei ddwylo arno, fe'i hiachaodd. Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiacháu. Rhoddodd y bobl hyn anrhydeddau lawer inni, ac wrth inni gychwyn ymaith, ein llwytho â phopeth y byddai arnom ei angen. Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni. Wedi cyrraedd Syracwsai, ac aros yno dridiau, hwyliasom oddi yno a dod i Rhegium. Ar ôl diwrnod cododd gwynt o'r de, a'r ail ddydd daethom i Puteoli. Yno cawsom hyd i gydgredinwyr, a gwahoddwyd ni i aros gyda hwy am saith diwrnod. A dyna sut y daethom i Rufain.

Actau 28:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel. Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a’u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o’r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o’r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw. Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân, ac ni oddefodd ddim niwed. Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe. Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd ni, ac a’n lletyodd dridiau yn garedig. A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a’i hiachaodd. Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd: Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol. Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux. Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau. Ac oddi yno, wedi myned oddi amgylch, ni a ddaethom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli: Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.