Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 27:1-4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 27:1-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma nhw’n penderfynu ein bod i hwylio i’r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o’r enw Jwlius – aelod o’r Gatrawd Ymerodrol. Dyma ni’n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i’r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni. Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen. Dyma ni’n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu’n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus.

Actau 27:1-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Pan benderfynwyd ein bod i hwylio i'r Eidal, trosglwyddwyd Paul a rhai carcharorion eraill i ofal canwriad o'r enw Jwlius, o'r fintai Ymerodrol. Aethom ar fwrdd llong o Adramytium oedd ar hwylio i'r porthladdoedd ar hyd glannau Asia, a chodi angor. Yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica, gyda ni. Trannoeth, cyraeddasom Sidon. Bu Jwlius yn garedig wrth Paul, a rhoddodd ganiatâd iddo fynd at ei gyfeillion, iddynt ofalu amdano. Oddi yno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus, am fod y gwyntoedd yn ein herbyn

Actau 27:1-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a’i enw Jwlius, o fyddin Augustus. Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o’r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd. Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.